13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr amser cyfartalog ar gyfer triniaeth yng Nghymru yw 19 wythnos. Nid wyf i'n credu bod pobl yn clywed hynny'n ddigon aml. Nawr, yn amlwg, rydym ni'n awyddus i fyrhau'r rhestrau aros. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 90 y cant o ran arosiadau dwy flynedd ers…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn haeddu'r un ansawdd o ofal ag yn unrhyw fan arall. Dyna pam rydym ni wedi cynyddu cyllid i'r GIG, wedi cefnogi gwaith gwella wedi'i dargedu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac rydym ni'n bwrw ymlaen â hyb llesiant y Drenewydd…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Mick, a diolch i chi am hyrwyddo GTFM yn benodol, y gwn ei bod yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr iawn, ac mae yna bobl ragorol yn gweithio yno. Fel rydych chi'n dweud, gwirfoddolwyr ydyn nhw i gyd, ac maen nhw'n gwneud gwaith sydd, yn fy marn i, yn…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae radio cymunedol yn wirioneddol bwysig. Mae'n rhoi llais i bobl, ac rwy'n credu ei fod yn cadw cysylltiad mewn cymunedau. Fe welaf i hynny bob wythnos ar Pure West Radio yn sir Benfro, lle mae gen i slot rheolaidd lle mae pobl yn barod iawn, iawn i ddweud…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un y cant—1 y cant—o'r cyllid i reilffyrdd a gawn ni yng Nghymru. Nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw hynny'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol oddi wrth Lywodraeth Dorïaidd y DU, ac nid yw'n dderbyniol, a dweud y gwir, oddi wrth y Llywodraeth Lafur ychwaith. Fe…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na wnaf. Nid wyf i am eu canmol nhw am eu bod nhw, mewn gwirionedd, wedi twyllo Cymru dros 14 o flynyddoedd.
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i chi, Buffy, am eich brwdfrydedd a'r ffordd yr ydych chi'n eiriol dros bobl yn eich etholaeth. Fe wn i chi fod yn awyddus iawn, ac rwyf i o'r farn fod pobl yn eich cymuned wedi bod yn dra amyneddgar wrth i'r newidiadau gael eu gwneud i…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae buddsoddiad gwerth £1 biliwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ym metro de Cymru eisoes yn cyflawni gwelliannau ymarferol ar reilffordd Treherbert. Mae teithwyr bellach yn elwa ar gyfleusterau gwell mewn gorsafoedd bysiau, gwybodaeth deithio sy'n fwy eglur ac yn…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel dywedais i, mae niferoedd y tanau a thanau mewn cartrefi, sef y rhai mwyaf peryglus o bell ffordd, wedi gostwng i'w niferoedd lleiaf erioed. Felly, rydym ni'n teithio i'r cyfeiriad cywir, ac mae hynny'n rhannol am fod gennym ni'r rhaglenni eang hyn o…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi dychryn o glywed am y trychineb ofnadwy a oedd yn dod i'r amlwg yn y Swistir—cymaint o fywydau ifanc yn cael eu dwyn ar ddiwrnod a oedd i fod yn achlysur llawn hwyl. Felly, yn amlwg, rydym ni'n…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r drefn, mae tanau ac anafiadau yn sgil tanau wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae hynny'n adlewyrchu'r pwyslais yr ydym ni a'r gwasanaeth tân ac achub yn ei roi ar ddiogelwch ac atal tân. Bydd ein Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Tom. Mae hon, rwy'n credu, yn sefyllfa ac yn fater y dylem ni eu cymryd o ddifrif iawn. Grŵp o gemegau synthetig yw'r cemegau am byth hyn ac maen nhw'n adnabyddus am eu gallu i wrthsefyll dŵr, baw ac olew. Mewn gwirionedd, maen nhw'n cael…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bu'n destun pryder mawr i ni glywed adroddiadau diweddar ynglŷn â'r defnydd o gemegau am byth, a oedd wedi'u cynnwys mewn ewynnau diffodd tân, a ddefnyddiwyd yn hen ffatri 3M yng Ngorseinon. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw diogelu iechyd y cyhoedd a'r…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dydw i ddim yn cymryd gwersi gan Reform ar unrhyw beth i'w wneud â'r GIG. Does dim ffordd bod gennych chi unrhyw hygrededd yn y maes hwn o gwbl, ac rydych chi'n gyn-Dori, fel y rhan fwyaf o bobl yn Reform, ac maen nhw'n dod yn aml ac yn fynych o'r blaid…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd gan Blaid Cymru wedi'i gynllunio o ran agor adrannau damweiniau ac achosion brys newydd yng Nghymru. Pob lwc gyda hynny, oherwydd, a bod yn onest, yr hyn yr ydym ni'n ei weld yw arbenigwyr sydd eisiau…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel mae Jenny newydd ei nodi, nid yw'n ymwneud ag ysbytai yn yn unig. Mae'n ymwneud â chymorth yn y gymuned ehangach, mae'n ymwneud â chymorth gartref, os gallwn ni, a dyna beth rydym ni wedi bod yn ei wneud. Dydyn ni ddim wedi bod yn ceisio ei wneud…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Jenny, dyma'r union beth y gwnaeth ein strategaeth 'Cymru Iachach' ei gyflwyno. Roedd yn amlwg iawn ein bod ni eisiau gweld y symudiad hwnnw i'r gymuned. Rydym ni wedi cynyddu faint o arian sy'n cael ei wario yn y gymuned yn sylweddol. Ar yr un pryd, fodd…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo ers amser maith i symud mwy o ofal yn agosach i gartref drwy'r rhaglen cymuned trwy ddylunio newydd. Mae diwygio contractau gofal sylfaenol eisoes wedi caniatáu i ni wneud cynnydd sylweddol. Mae llwybrau awdioleg ac…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi eisiau i mi siarad am reilffyrdd. Rwyf i wrth fy modd yn siarad am reilffyrdd. Rwyf i ar ben fy nigon yn siarad am reilffyrdd, oherwydd mewn gwirionedd, dyma un o gyflawniadau mwyaf balch Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru—buddsoddwyd £800…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur ein bod ni eisiau gweld datganoli rheilffyrdd, fel yr argymhellwyd yn y comisiwn annibynnol ar ddatganoli, ond unwaith eto, yr hyn y mae gennym ni ddiddordeb ynddo yw agweddau ymarferol—pa wahaniaeth y mae'n mynd i'w wneud i…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gen i ddiddordeb mewn gobaith. Nid oes gen i ddiddordeb mewn ffantasi, sef yr hyn yr ydym ni'n ei gael gan Blaid Cymru a'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed o rai o'u syniadau o ran y cynnig i bobl Cymru. Nid yw pobl eisiau gweld rhaniad. Dydyn nhw ddim…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n awyddus iawn i gael Cymru yn gweithio. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw. Dyna pam, o dan Lywodraeth Lafur Cymru, yr ydym ni wedi gweld 46,000 o swyddi newydd yn cael eu creu…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn talu treth stamp, felly rydych chi'n amlwg yn canolbwyntio ar rannau cyfoethocaf ein cymuned. Unwaith eto, dyma'r hen ddull Torïaidd o ymdrin â'r economi. Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth sy'n atal pobl rhag prynu eu cartrefi eu…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Allaf i ddim credu bod y Torïaid yn pigo ar Lafur ar dai, o bopeth. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn diwedd tymor y Senedd hwn. Dim ond i roi cyd-destun i chi, dim ond i roi syniad i chi o'r hyn y mae hynny'n…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gareth, rydych chi wedi cael eich Haribos y bore yma, onid ydych chi? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod hwn yn fater y mae Carolyn wedi bod yn ei hyrwyddo ers amser maith. Ac a dweud y gwir, rwyf i wedi bod i Ysbyty Brenhinol Alexandra gyda Carolyn…