13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i chi am eich dyfalbarhad ar y mater hwn ar ran y bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli, pobl y Rhyl, yr wyf yn gwybod eu bod yn awyddus iawn i weld y datblygiad hwn? Roedd Ann Jones, rwy'n gwybod, yn un o hyrwyddwr hyn yn y Senedd flaenorol…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae pobl leol wedi aros ers amser maith am gynnydd o ran Ysbyty Brenhinol Alexandra. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw'r datblygiad hwn i'r gymuned. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio drwy'r achos busnes cam 1. Byddwn yn ei asesu'n gadarn ond yn deg…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennym ni gynllun eglur iawn: y cynllun gweithredu strategol anabledd dysgu. Cyhoeddwyd hwn yn 2022. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 33 o'r 35 o gamau gweithredu eisoes wedi'u cwblhau. Mae'r ddau arall wedi cael eu haddasu neu eu diwygio o ganlyniad i newid…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bwysig cydnabod yr anawsterau y mae llawer o bobl sy'n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwroamrywiol yn eu dioddef, ac mae'n bwysig cydnabod y cymorth sydd ei angen ar eu cyfer a hefyd eu teuluoedd. Dyna pam mae gennym ni ddyletswyddau statudol wedi'u…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rydym ni'n un o'r unig rannau o'r Deyrnas Unedig i addo darparu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal, a dyna'n union beth rydym ni wedi ei wneud. Fe wnaethom ni hynny yn llawer cynharach nag yr oedd pobl yn disgwyl i ni ei wneud, oherwydd pan fydd…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi eisiau dymuno blwyddyn newydd dda i bob un, a dwi'n gwybod ein bod ni i gyd yn barod i wneud beth rŷn ni'n gallu dros bobl Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn ystod y misoedd nesaf. A dwi'n siŵr y bydd lot o hwyl ac egni i'w cael yn y Siambr yma. Mae…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n gwybod pa mor angerddol yr ydych yn teimlo ynghylch y mater hwn, ac rwyf innau'n falch iawn hefyd o'r cyllid o £100,000 a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu i adfer cynefinoedd morwellt. Rwy'n credu, os nad oes ots…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gwella'r amgylchedd morol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n ariannu amrywiaeth o brosiectau morol, gan gynnwys adfer morwellt, ailgylchu offer pysgota ac ymchwil ar gyfer gwella ein dealltwriaeth ni o'r amgylchedd morol. Rydym ni'n cymryd…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r digwyddiad critigol hwnnw a gafodd ei ddatgan yn Aneurin Bevan dros y Nadolig. Fe gefais i gyfle hefyd i fynd i siarad â phobl yn yr adran argyfwng ychydig wythnosau yn ôl, ar ymweliad dirybudd…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llynedd, roedd bron i 980,000 o ymweliadau ag ysbytai o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn unig. Mae’r lefelau galw a gweithgaredd yn cynyddu bob blwyddyn. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Wel, edrychwch, dim ond rhywbeth i bawb ei nodi, rwy'n credu: o ran ymchwiliadau cyhoeddus, mae llawer o waith i'w wneud. Wyddoch chi, mae llawer ohonom ni yn rhan o'r ymchwiliad COVID, ac allaf i ddim ddechrau dweud wrthych chi faint o…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi’u nodi yn 'Cymru Iachach' ac mae'r camau diwygiedig a gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr yn canolbwyntio ar atal iechyd gwael ac afiechydon yn y lle cyntaf, ac ar adnabod ac ymyrryd yn gynnar pan…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth o ran gwahardd Aelodau ac ymgeiswyr y'u ceir yn euog o ddichell fwriadol. Byddwch yn ymwybodol bod Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn cynnal ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae honna'n un dda yn dod gan eich plaid chi, a bod yn onest. Edrychwch, rwyf i wedi nodi—a byddaf yn cymryd i ystyriaeth y materion hynny yr wyf i'n atebol amdanyn nhw yng Nghymru; allaf i ddim bod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Rwy'n…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn ogystal â'r ddeddfwriaeth sy'n destun craffu ar hyn o bryd, rydym ni eisoes wedi cyhoeddi Biliau pwysig i ddod eleni, gan gynnwys rhai'n ymwneud â bysiau, llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, digartrefedd a diogelwch adeiladau. Nodir blaenoriaethau…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwch yn ymwybodol bod rhaglen HS2 yn rhaglen enfawr iawn i gychwyn, a oedd yn mynd i fod yn parhau am ddegawdau ar ddegawdau ar ddegawdau, ac a oedd yn mynd i ddefnyddio gwerth biliynau o bunnoedd o gyllid. Ond fe wnaeth eich Llywodraeth ganslo'r rhan…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Ni wnaeth y Torïaid ennill unrhyw dir yn hyn o beth pan oeddech chi'n rhedeg San Steffan. A gwrandewch, i roi eich clod i chi, hwn, o leiaf, oedd y tro cyntaf, rwy'n credu, i ni weld y Torïaid yn dweud, mewn gwirionedd, bod hyn yn annheg…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau fy mod i'n gwneud y ddadl dros Gymru gyfan, ac rwy'n gwybod, yn benodol, bod ei swyddogaeth ddeuol fel yr Ysgrifennydd trafnidiaeth ac Ysgrifennydd gogledd Cymru yn golygu nad oes unrhyw ffordd bod mater y gogledd yn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn bod y sylwadau cryf iawn yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud hyd yn hyn yn dechrau cyflawni'r canlyniadau cyntaf hynny. Mae'n daith hir, ond mae'n daith y rhoddodd pobl eraill gynnig arni heb lwyddiant gyda'r Llywodraeth…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n codi mater cyllid rheilffyrdd ac, yn benodol, cyllid canlyniadol HS2 gyda Llywodraeth y DU yn rheolaidd iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru hefyd wedi cael cyfres o sgyrsiau cynhyrchiol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Diolch am godi'r materion hyn gyda mi. Rwy'n falch iawn eich bod chi'n mynd i fod yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Gwener. Rydym ni'n eglur iawn ein bod ni eisiau cyrraedd sefyllfa lle gall pawb sydd eisiau mynediad at ddeintyddiaeth GIG gael…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n diwygio'r contract deintyddol ac yn ailgyfeirio deintyddiaeth y GIG tuag at system sy'n canolbwyntio ar atal a darparu triniaeth yn seiliedig ar risg ac angen. Mae ein diwygiadau hyd yma wedi galluogi bron i 38,000 o gleifion newydd i dderbyn cwrs…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y cwbl yr oeddwn i'n ei ddweud oedd bod £1 biliwn ar y bwrdd i chi ddod i'w godi. Os nad ydych chi'n mynd i'w godi, rwy'n credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwylio ac y byddan nhw'n cydnabod, a byddan nhw'n dweud, 'Beth yw'r pwynt rhoi £4 biliwn iddyn nhw?…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o ddweud bod y sylwadau cryf yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud yn golygu, am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, y bu cydnabyddiaeth o'r ffaith nad yw Cymru wedi cael digon o adnoddau o ran rheilffyrdd. Dyma'r tro cyntaf mewn 14…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gallaf eich sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnal. Efallai nad yw Darren Jones wedi cymryd rhan ynddyn nhw, ond gallaf eich sicrhau chi bod Gweinidogion eraill wedi cymryd rhan ynddyn nhw. Mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi cael trafodaethau yn ddiweddar iawn, rwyf…