3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Wel, rydych chi wedi clywed ein bod eisoes wedi dechrau, ac mae'r archwiliadau iechyd yr ysgyfaint wedi'u targedu hynny eisoes wedi'u treialu, ac rwy'n credu ein bod yn gweithio'n llwyddiannus iawn. Rydym yn asesu hynny nawr ac yn dadansoddi'r…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych fy mod yn y seremoni wobrwyo honno, ac roedd yn un o'r pethau mwyaf calonogol imi gymryd rhan ynddynt eleni. Felly, llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd, ond yn enwedig i'r rheini a enillodd, ac yn enwedig…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi ar gyfer canser sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau diagnostig a thriniaeth o ansawdd uchel ar gyfer cyflyrau fel canser yr ysgyfaint. Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar gefnogi…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, gallaf ddweud wrthych fod ein Llywodraeth wedi blaenoriaethu'r GIG uwchlaw popeth arall. Rydym wedi gweld cynnydd o 4 y cant mewn perthynas â chyllid i'r GIG, pan nad ydynt ond wedi rhoi cynnydd o 1 y cant yn Lloegr. Felly, nid yw hynny'n rhywbeth inni…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, nid oes dwywaith amdani, rydym yn byw mewn cyfnod heriol. Ni chredaf fod unrhyw un yn deall hynny'n well na ni yn y Cabinet. Bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau gwirioneddol anodd y llynedd, ac fe wyneboch chi benderfyniadau anodd pan oeddech chi mewn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, fe fyddwch yn ymwybodol mai ni sydd i benderfynu i ble mae'r arian yn mynd yng Nghymru, a'r ffaith amdani yw ein bod yn penderfynu'n wahanol ac mae'n debyg y byddwn yn parhau i benderfynu'n wahanol, gan y byddwn yn gwneud yr hyn y credwn ei fod yn iawn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Fel y gwyddoch, Altaf, mae’r amseroedd aros hiraf wedi gostwng 70 y cant ers eu lefel uchaf ym mis Mawrth 2022, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am y ffaith ein bod yn trin yr achosion mwyaf difrifol yn gyntaf. Wrth gwrs, rydym hefyd yn cyfrif…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Wel, rydym yn amlwg yn aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol, ac yna byddwn yn aros i argymhellion y bwrdd adolygu cyflogau gael eu cyhoeddi, ac yna, yn amlwg, bydd angen inni ddechrau negodi ar ble rydym yn setlo mewn perthynas â chyflogau…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, ac fe fyddwch yn gwybod ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn. Y ffaith amdani yw ein bod yn hyfforddi mwy o nyrsys nag erioed o'r blaen. Rydym wedi rhoi mwy o arian tuag at hyn. Mae gennym ymarferion recriwtio rhyngwladol…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Altaf, ac fel y dywedaf, rydym yn edrych ar hyn. Mae'r adolygiad hwn yn mynd rhagddo ac rwy’n disgwyl iddo adrodd ym mis Awst. Ac mae gennym grŵp o arbenigwyr ardderchog sy'n edrych yn benodol yn yr adolygiad hwnnw ar fater bwydydd wedi'u…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae adolygiad cynhwysfawr o safonau maeth ac arlwyo Cymru ar gyfer bwyd a diod i gleifion mewnol ysbytai yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei lywio gan gyngor arbenigol gan y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg, a fydd yn cynnwys…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Gareth. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych fod y GIG ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn gwneud mwy o gysylltiadau nag erioed gyda'r boblogaeth yno. Hefyd, os edrychwch ar nifer y meddygon teulu a’r ffaith bod pob un ohonynt…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach' yw i bobl gael mynediad cyfartal at amrywiaeth gynyddol o wasanaethau cymunedol i'w cefnogi i aros yn iach a byw'n annibynnol. Disgwylir i bartneriaid lleol gydweithio i adeiladu capasiti cymunedol a llunio a darparu mwy o…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir, Jenny. Dim ond meddwl ydw i pa mor flinedig yw cael cyfarfod bob hanner awr, a gofynnir i'n meddygon teulu gael cyfarfod bob wyth munud. Fe allwch chi ddychmygu pa mor ddwys yw hynny, a pha mor anodd yw hynny. Felly…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr iawn, John, a diolch hefyd am y gwaith rydych chi'n ei wneud gydag Elliot a'i deulu. Rydym ni'n canolbwyntio'n sylweddol ar glefydau prin ac, fel y gwyddoch chi, mae gennym ni raglen arbennig sy'n rhoi sylw gwirioneddol i hynny. Ond, rydych…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
—ond mae hynny'n dda iawn, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n parhau i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf. Ond, fel rydych chi'n dweud, mae cadw pobl yn y gweithlu yn bwysig hefyd. Yr hyn a wnaethom ni yw ein bod ni wedi cadw'r un faint o arian, ac rwy'n…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, Gareth, rydych chi'n un o'r bobl hynny a gafodd eu hyfforddi yn y GIG, wn i ddim a gawsoch chi eich hyfforddi yng Nghymru—
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr iawn, a diolch, hefyd, am dynnu sylw at y ffaith nad ym Mangor yn unig yn y gogledd rydym ni'n hyfforddi pobl ar gyfer gofal iechyd; mae Wrecsam yn wir yn eithaf arwyddocaol, ac mae'n rhaid i ni fod yn hollol glir bod hyfforddi pobl yn y…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Felly, 12 y cant o gynnydd yng Nghymru, 3 y cant yn Lloegr. Mae cyfradd yr oncologists wedi cynyddu yn sylweddol, ac, wrth gwrs, mae lot mwy yn y pipeline, ond dyw'r rhain ddim yn bobl rydych chi'n gallu switsio ymlaen dros nos. Jest o ran y blaenoriaethau…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
—cynnydd cyfrannol mwyaf mewn oncolegwyr ar draws y pedair gwlad.
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr, Mabon, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi gwneud y newidiadau hynny o ran sicrhau bod pobl yn gallu bod yn fwy flexible yn eu gwaith, gobeithio, yn mynd i weld sifft yn y nifer sy'n gweithio fel agency mewn asiantaethau a byddan nhw'n gweithio'n…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr iawn, Sam. Fel y gwyddoch chi, fe gawsom ni ein herio'n ariannol iawn yn y gyllideb eleni. Roedd hynny oherwydd—. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i fy nghyd-Ysgrifenyddion o amgylch bwrdd y Cabinet eu bod yn barod i gefnogi iechyd. Rydym ni wedi…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Llynedd fe wnes i gyhoeddi y byddwn ni'n ariannu hyd at 140 o lefydd i fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn yn ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, gan ddechrau derbyn myfyrwyr yn uniongyrchol o fis Medi eleni ymlaen. Bydd sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn ein…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25
Diolch yn fawr. Diolch am y cyfle i wneud y datganiad pwysig hwn am fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r GIG yng Nghymru yn cysylltu â thua 2 filiwn o gysylltiadau y mis mewn poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o…
19 Mehefin 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: Sesiwn dystiolaeth gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr.