27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Joyce. Fel Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n falch iawn o weld buddsoddiadau fel Fronteifi Nature Lodges yn Aberteifi. Dyma'r union fath o ddatblygiad twristiaeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gefnogi—o ansawdd uchel, wedi'i…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r sector twristiaeth yn gyfrannwr mawr at economi Cymru ac at swyddi, yn enwedig yn y canolbarth a'r gorllewin. Rydym ni'n buddsoddi miliynau i gryfhau'r sector twristiaeth, gan gynorthwyo busnesau i dyfu a gwella profiadau ymwelwyr. Mae Croeso Cymru yn…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Luke, a diolch am eich dyfalbarhad ar y mater hwn. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Mae angen i ni edrych ar y dystiolaeth. Mae pobl yn edrych ar y dystiolaeth wrth i ni siarad. Rydym ni'n aros am y cyngor hwnnw, ac fe wnaf i…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Edrychwch, rwy'n cydnabod mai canser y prostad, rwy'n credu, yw'r canser mwyaf o ran dynion sy'n dioddef o ganser, felly mae'n amlwg bod yn rhaid i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Ac rydym ni'n ei gymryd o ddifrif. Nid yw'n cael ei gynghori yn glinigol, fel yr…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cyfraddau marwolaethau canser yng Nghymru wedi gwella 17 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae cyfraddau goroesi net pum mlynedd ar gyfer pob canser wedi gwella bron i 10 pwynt canran dros y 15 mlynedd diwethaf. Rhwng Rhagfyr 2024 a Thachwedd 2025…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae un o bob dau person yn debygol o ddatblygu canser rywbryd yn eu bywyd, felly mae gwella gofal, triniaeth a chanlyniadau canser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'n Llywodraeth. Rŷn ni'n canolbwyntio ar weithio gyda'r NHS i ddarganfod canser yn…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mark, eich Llywodraeth chi wnaeth amddifadu ein Llywodraeth o fuddsoddiad cyfalaf am dros ddegawd. Roedd hynny'n golygu na allem ni fuddsoddi yn y pethau hyn, ac nawr rydym ni'n gallu, am y tro cyntaf, gwneud hynny. Ond nid yw hynny'n ddim diolch i chi, a…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, ychydig iawn o arian cyfalaf oedd gyda ni fel Llywodraeth o dan y Torïaid. Dyna'r gwirionedd. Ychydig iawn o arian oedd ar gael ar gyfer datblygu pethau fel hyn mewn ardaloedd fel Bangor, Waunfawr a Phenygroes. Ond mae'r rhain nawr yn brif flaenoriaeth i…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi'n falch o allu cadarnhau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu arian i ddatblygu achosion busnes ar gyfer Waunfawr a Chanolfan Lleu, a'n bod ni'n aros am geisiadau pellach am gyllid ar gyfer y tri chynnig yn Arfon.
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ots gennych chi am wasanaethau cyhoeddus? Pam na wnewch chi bleidleisio dros y gyllideb heddiw? Dyna eich cyfle i ddangos bod ots gennych chi. Y ffaith amdani yw ein bod ni wedi cael cynnydd o 40 y cant i nifer y meddygon a'r deintyddion ers y…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llafur yw plaid datganoli; Plaid Cymru yw plaid annibyniaeth. Mae yna wahaniaeth. Mae'n wahaniaeth sylfaenol. Rydym ni eisiau gwneud i'r lle hwn weithio—Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref. Nid wyf i'n ymddiheuro am hynny. Yr hyn a nodais yn yr araith IfG yr…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am y ffaith y byddwn ni heddiw, rwy'n gobeithio, yn cael ein cyllideb drwodd diolch i'r gefnogaeth gan Blaid Cymru. Nid yw hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Mae hynny'n dangos cyfrifoldeb ymarferol—rhywbeth na fyddwch…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch iawn bod cydnabyddiaeth, yn y Papur Gwyn, wrth sôn am uno heddluoedd, o amgylchiadau gwahanol Cymru, ac wrth gwrs byddwn yn eglur ein bod ni'n parhau i bwyso am ein barn hirddatganedig y dylid datganoli plismona. Ond ar ryw adeg, byddai'n braf pe…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n canolbwyntio ar Lywodraeth y DU. Rwy'n canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru. Rwy'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr mai'r hyn yr ydym ni'n ei wneud heddiw yw ein bod ni'n cael cyllideb drwodd—[Anghlywadwy.]—gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu'r…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fe'i gwnes hi'n gwbl eglur, mewn araith a gyflwynais yr wythnos diwethaf, ble'r ydym ni'n sefyll ar y mater hwn, ac rwy'n falch ei fod yn talu sylw i'r araith honno. Byddaf bob amser yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod ni'n…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n adnabod nifer o bobl sy'n defnyddio'r cyffuriau colli pwysau hyn, ac mae nifer o bobl yn colli llawer iawn o bwysau o ganlyniad, ac maen nhw'n credu'n gryf ynddyn nhw. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl yn deall, pan fyddan nhw'n…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod angen i ni annog pobl i fyw mewn ffyrdd iachach, a dyna pam rydym ni wedi bod yn gynhwysfawr iawn gyda'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n annog pobl i fwyta'n iach ac i ofalu am eu hiechyd trwy weithgarwch corfforol. Ceir amrywiaeth…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni eisoes yn defnyddio genomeg yn eithaf helaeth yng Nghymru. Os edrychwch chi ddim ond ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran triniaethau a sgrinio canser, mae hynny i gyd eisoes yn cael ei ddefnyddio. A dweud y gwir, rydym ni ar flaen y gad o ran…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, John. Diolch am eich arweinyddiaeth ar hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n hoff o gymryd rhan mewn chwaraeon, ac rydych chi'n arwain y ffordd i'ch cymuned drwy esiampl. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod cadw'n heini yn lleihau siawns pobl o…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaethom ni lansio ein cynllun cyflawni newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ym mis Medi, â chefnogaeth lawn y Cabinet a thraws-lywodraethol. Mae gan y cynllun bwyslais eglur nid yn unig ar fwyd, ond hefyd ar weithgarwch corfforol. Ar draws y Llywodraeth…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, gallaf ddweud wrthych chi eu bod nhw. Dyna'r gwir. A, gwrandewch, rwy'n deall ei fod yn peri gofid enfawr. Roeddwn i'n arbennig o bryderus pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd am y sefyllfa o ran dermatoleg yng ngogledd Cymru. Mae nifer yr achosion o ganser y…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ym mis Tachwedd, cafodd 43,800 o bobl eu rhyddhau o boen ac anghysur o ganlyniad i driniaeth yn y GIG yng Nghymru, gan gyfrannu at y gostyngiad misol mwyaf erioed i'r rhestr aros. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi miliynau eleni i leihau rhestrau aros, gan…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny, a diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwnnw yr holl flynyddoedd hynny'n ôl. Diolch i chi am eich dyfalbarhad mewn maes y gwn ei fod yn wirioneddol bwysig i chi a'r bobl yn eich etholaeth. Rydych chi wedi bod yn hyrwyddwr…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein buddsoddiad yn Dechrau'n Deg yn trawsnewid bywydau teuluoedd, babanod a phlant ifanc, yn enwedig y rhai sydd yn yr angen mwyaf. Mae hwn yn ddull unigryw o roi gofal i blant, sy'n rhoi cymorth iechyd a lleferydd i'r plant yn ogystal â chefnogaeth…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe hoffwn i ddweud gair bach i roi ymdeimlad i chi o sut mae pethau wedi gwella o ran cymorth iechyd meddwl yng Nghymru. O ran asesiadau ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, mae 96 y cant ohonyn nhw'n cael eu gwneud o fewn 28 diwrnod. O ran dechrau ar therapi, mae…