20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyn inni ddod ymlaen at ddata, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n adlewyrchu ar lwyddiant y Llywodraeth yma i wella llwybrau i gael cymorth iechyd meddwl.
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe gafodd yr adolygiad ei gynnal yn rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn manteisio i'r eithaf ar werth ystadegau swyddogol. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i wella data iechyd meddwl yng Nghymru. Rŷn ni wedi gwneud gwelliannau i'r ffordd…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Fel y dywedodd y Manic Street Preachers yn eu cân wych, 'A Design for Life', 'libraries gave us power', ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod pa mor drawsnewidiol y gall llyfrgelloedd fod ym mywydau llawer o bobl yn ein cymunedau. Maen nhw'n…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae llyfrgelloedd ymhlith y lleoliadau cyhoeddus sy'n ennyn yr ymddiriedaeth fwyaf ac maen nhw'n darparu lleoliadau hygyrch, yn rhad ac am ddim, lle gall pobl ymgysylltu â gwasanaethau hanfodol. Mae eu hadeiladau yn cefnogi argaeledd gwybodaeth, adnoddau…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rydych chi'n gwbl gywir o ran y metro bod y Deyrnas Unedig yn cyfrannu mewn gwirionedd. Rydym ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gwbl hapus iddyn nhw gyfrannu at ein seilwaith yng Nghymru. Rydym ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Nid oes gen i gywilydd o fod…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n gwbl gywir i dynnu sylw at y ddwy fenter hynny fel rhai o'n cyflawniadau mwyaf balch. Mae'r system metro yn drawsnewidiol, rwy'n credu, i bobl y Cymoedd. Mae'n drawsnewidiol i'w gallu i gael swyddi, i ddod i Gaerdydd, i fynd yn ôl i'r Cymoedd, i…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un enghraifft wych o fuddsoddiad yn Nhaf Elái yw Parc Coed Elái, prosiect adfywio blaenllaw gan Lywodraeth Cymru sy'n dangos ein hymrwymiad hirdymor i gefnogi swyddi, buddsoddiad a thwf economaidd cynaliadwy yn Nhaf Elái. Rydym ni wedi buddsoddi tua £4 miliwn…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r pwysau ar y byrddau iechyd yn aruthrol, ac yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydyn ni'n cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau nad ydym ni'n gweld y gofal hwnnw mewn coridorau sy'n peryglu preifatrwydd ac urddas cleifion. Rydyn ni wedi rhoi…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid oes unrhyw un ohonom ni eisiau gweld ein hanwyliaid yn cael eu trin mewn coridorau, ac rydyn ni wedi ei gwneud hi'n eglur nad yw'n rhywbeth sy'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cynorthwyo byrddau iechyd i leihau gofal mewn mannau dros dro mewn…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae'n hyfryd siarad â chi, James, ac mae'n hyfryd meddwl y gallech chi fod yn mynd allan i'r dafarn gyda'ch ffrind mawr Robert Jenrick, y clywsom ni gymaint amdano ar y teledu. Mae'n bwysig, rwy'n credu, i bobl Cymru gydnabod y rhuthr sy'n digwydd nawr…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, gwrandewch, byddwn i wrth fy modd yn gwneud mwy i'w cynorthwyo. Mae hwn yn fater o gydnabod bod cronfa gyfyngedig o arian a phan fydd eich breuddwydion o lywodraethu Cymru wir mewn sefyllfa lle efallai y bydd yn rhaid i chi wynebu rhai o'r gwirioneddau…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi cynorthwyo busnesau bach ym maes lletygarwch ers blynyddoedd, tra bod cyfraddau llog yn cynyddu'n ofnadwy o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, gan daro nid yn unig busnesau ond hefyd y rhan fwyaf o deuluoedd hefyd. A dim ond o ran…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n anghywir awgrymu y bu diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru o ran lletygarwch. A dim ond i roi syniad i chi o raddfa'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ers 2020 rydym ni wedi gwario mwy nag £1 biliwn mewn cymorth ardrethi busnes mewn…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae tafarndai yn ganolog i gynifer o'n cymunedau ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, os yw pobl eisiau iddyn nhw aros, bod angen iddyn nhw eu defnyddio. Mae'r sector lletygarwch yn hanfodol i economi Cymru, gan gefnogi tua 123,000 o swyddi a chwarae rhan…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae gennych chi ddiddordeb mewn rhoi terfyn ar ddichell mewn gwleidyddiaeth ac rwyf innau hefyd, ac mae awgrymu nad oes gen i ddiddordeb mewn mynd i'r afael â thlodi—. Y rheswm pam rwyf i eisiau gweld twf yn yr economi yng Nghymru yw yn union oherwydd fy…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel wnes i gynhyrchu'r uwchgynhadledd fuddsoddi fwyaf y mae'r wlad hon wedi ei gweld erioed. Cyflawni yw hynny. Roeddem ni'n siarad am gynhyrchiant yno. Dyna fu un o'r meysydd allweddol yr wyf i'n gwybod y mae Ysgrifennydd yr economi wedi ei ysgogi…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rydym ni o ddifrif am yr economi. Mae mwy o bobl yn cael eu cyflogi yng Nghymru heddiw nag oedd y llynedd. Rydych chi wedi gweld cyfraddau llog yn gostwng, rydych chi wedi gweld morgeisi yn gostwng, rydych chi wedi gweld busnesau sy'n gallu buddsoddi mwy…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch iawn bod gennym ni gronfa driniaeth newydd yng Nghymru. Mae'n eithriadol o lwyddiannus. Mae'n golygu bod pobl yn cael mynediad at gyffuriau yn llawer cyflymach. Byddwch wedi gweld ar y teledu yr wythnos diwethaf bod pobl yn Lloegr wedi bod yn aros…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae hwnnw'n gyfnod annerbyniol o amser i aros, ac rwyf i'n mynd i'ch annog i gysylltu â'r Ysgrifennydd iechyd i fynd i'r afael â'r achos unigol penodol hwnnw. Edrychwch, rydyn ni wedi rhoi swm sylweddol o gyllid ychwanegol i'r GIG yng Nghymru. Rydym ni'n…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rydyn ni wedi datblygu cynllun canser cynhwysfawr iawn ar gyfer Cymru. Mae'r ystadegau'n gwella. Bu gwelliannau ar draws llawer o fyrddau iechyd, yn enwedig ers y pandemig, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld bod pobl yng Nghymru…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i ddatganoli seilwaith rheilffyrdd. Rydyn ni wedi dweud hynny dro ar ôl tro. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod ni'n cydnabod, os ydym ni eisiau hynny, bod yr arian yn dilyn, oherwydd os yw hynny gennych chi heb yr…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Edrychwch, y cwbl wnaeth eich plaid chi oedd cyhoeddiadau ac nid oedd unrhyw sylwedd yn sail iddyn nhw o gwbl. Rydyn ni'n gwybod hynny. Gofynnwch i bobl Abertawe, yr addawyd trydaneiddio iddyn nhw. A ddigwyddodd hynny? Ni ddaeth erioed. Yr un peth o dan…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, ac rwyf i wedi cydnabod dro ar ôl tro, y tanariannu—y tanariannu cywilyddus—sydd wedi digwydd o ran seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Roedd yn wael iawn. Fe'i gadawyd i ddirywio o dan y Torïaid am dros ddegawd…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O gymharu â'r Llywodraeth Dorïaidd flaenorol, rydyn ni wedi sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU. Ond rydyn ni'n eglur iawn ein bod ni'n disgwyl iddyn nhw fynd ymhellach a'n bod ni eisiau derbyn ein cyfran deg o gyllid. O ran datganoli…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn sensitif i bobl sydd yn ei ffeindio hi'n anodd i fynd ar y palmentydd, ac nid yn unig pobl sydd ag anabledd, ond hefyd famau â phramiau a phethau. [Torri ar draws.] A thadau—fair enough. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig…