29 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diabetes
Yn ffurfiol.
15 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol hwnnw, Gareth. A gaf fi achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith a wneir gan Men's Sheds ledled Cymru? Rwy'n credu eu bod yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o gefnogi iechyd meddwl a mynd i'r afael…
15 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch. Mae gwella llesiant Cymru wrth wraidd popeth a wnawn, diolch i'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n torri tir newydd. Mae enghreifftiau o gamau gweithredu penodol yn cynnwys y gronfa iach ac egnïol, i gefnogi prosiectau sy'n…
15 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Buffy. Fel rydych yn iawn i ddweud, rydym i gyd yn disgwyl cael profiad hapus iawn wrth eni plant, ond yn anffodus, gall pethau fynd o chwith, gall fod profiadau trallodus, a gwn eich bod yn cydnabod hynny, fel finnau. Mae'n bwysig iawn…
15 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Janet, a gallwch fod yn gwbl dawel eich meddwl fod hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y gwnaethom sicrhau bod y cyllid rheolaidd ar gael, i sefydlu timau iechyd meddwl amenedigol. Maent ar waith ym mhob rhan o Gymru. Roeddwn yn falch…
15 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, Delyth, ac fel y dywedwch, mae wedi bod yn anodd iawn cael babi newydd yn ystod y cyfyngiadau symud. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny, ac fe fyddwch yn cofio imi arwain dadl yn y Siambr fel aelod o'r…
15 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae byrddau iechyd yn parhau i ddatblygu gwasanaethau yn unol â safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer iechyd meddwl amenedigol. Cefnogir y gwaith gan gyllid gwella ychwanegol ar gyfer gwasanaethau eleni, sy'n adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol.
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
A wnaethoch chi wrando mewn gwirionedd ar yr hyn a ddywedais pan esboniais ein bod yn cael adolygiad, adolygiad yr uned gyflawni, o wasanaethau CAMHS yng Nghymru? Felly, rydym yn gwneud yr hyn rydych chi wedi codi i alw amdano yn awr. Efallai y byddai'n help…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
Diolch yn fawr, Darren. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â mwy na'r amseroedd aros yn unig. Rwyf fi fy hun wedi galw am fwy o ffocws ar ganlyniadau a'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael asesiad. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddilysu'r data er…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na gwella, amddiffyn a chefnogi lles meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ac ailddatgan fy ymrwymiad droeon yn y…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
Rwy'n mynd i roi sylw i hynny.
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
Nid wyf yn siŵr a ydych yn cofio'r adroddiadau niferus a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y maes hwn, ond cydnabu'r un pwysicaf gennym, 'Cadernid Meddwl', fod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd a bod angen canolbwyntio ar…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed
Yn ffurfiol.
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol
Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am 'ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy.' Fel y mae ein gwelliant yn cydnabod, nid ydym yn hunanfodlon, ond mae gennym…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol
Yn ffurfiol.
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Heledd. Fel y nodwyd gennych, mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd dda iawn o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol wedi ei leoli yn y gymuned, ac mae angen i hynny fod yn ddull cyfannol sy'n cydnabod bod ystod o…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym yn datblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi gweithredu lleol i gynyddu'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad y mis nesaf.
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael negeseuon pwrpasol. Roedd ein hymgysylltiad drwy'r pandemig yn rhagweithiol iawn yn hynny o beth. Fe wnaethom gontractio asiantaeth ymgysylltu arbenigol ar gyfer lleiafrifoedd…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, John. Fel yr ydych wedi nodi, mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a dyna pam y sefydlodd y Prif Weinidog y grŵp i edrych ar yr…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae camau i dargedu negeseuon iechyd cyhoeddus cryf at gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi'u hymgorffori yn ein gwaith atal ar gyfer iechyd y cyhoedd, i helpu pobl i gynnal pwysau iach, rhoi'r gorau i ysmygu, a chefnogi eu lles…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, James. Ac mae'r hyn rydych wedi'i ddweud yn bwysig iawn, oherwydd yn amlwg, nid ydym am i broblemau pobl ifanc waethygu. Dyna pam fod ein holl bwyslais yn Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gynnar a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymorth yn…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, James. Yn amlwg, mae'r Bil diogelwch a niwed ar-lein yn gyfrwng pwysig i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau y cyfeirioch chi atynt, ac y gwn eich bod wedi eu codi eisoes yn y Siambr hon. Rydych yn llygad eich lle nad yw materion digidol wedi’u…
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch am eich cwestiwn, James. Ac rwy'n falch iawn hefyd o gydnabod ar goedd y ffaith ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o weithgareddau'n cael eu cynnal ac ymdrechion yn cael eu gwneud i godi ymwybyddiaeth. Fe…