23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Peredur. Rydym i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn a welwn, ac mae'r trawma y mae pobl yn ei brofi yn Wcráin yn rhywbeth na allwn ei ddychmygu mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wahanol yng Nghymru gyda'n rhaglen…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Peredur. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, wrth gwrs fy mod yn pryderu bod gennym bobl ifanc yn aros yn hwy nag y dylent. Credaf fod y sefyllfa gydag amseroedd aros yn cael ei hystumio rhywfaint gan Gaerdydd a'r…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny, ac rwy'n llwyr gefnogi presgripsiynu cymdeithasol fel ffordd o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned, ac rwy'n ystyried bod cymorth o'r fath yn rhan wirioneddol allweddol o'n hagenda ataliol. Fe fyddwch…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol? Rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch yr anawsterau sy'n parhau gydag amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Cyfarfûm â Chaerdydd a'r Fro dair gwaith i drafod, yn fanwl, eu dull o reoli eu hamseroedd aros. Credaf…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym yn blaenoriaethu £50 miliwn, £75 miliwn a £90 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl ar gyfer 2022-23, 2023-24 a 2024-25 yn y drefn honno. Mae hyn yn ychwanegol at y £760 miliwn a fuddsoddir yn flynyddol o gyllid iechyd meddwl…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta
Diolch ichi am yr ymyriad hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Rhun, ond credaf mai prif asgwrn y gynnen, mewn gwirionedd, yw'r angen am fframwaith newydd, oherwydd gwyddom yn union lle y mae angen inni ei gyrraedd gyda gwasanaethau anhwylderau bwyta. Ceir…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau ac am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc mor bwysig. Mae llawer yn y cynnig hwn rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen gwneud gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ac rwyf…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta
Yn ffurfiol.
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024
Diolch yn fawr iawn i chi, Ken. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw i chi fy mod yn ymrwymedig iawn i'r blynyddoedd cynnar ym mhob agwedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i fel Aelod y meinciau cefn yn codi pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf sawl tro. Felly…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024
Diolch yn fawr iawn, Jenny, am eich croeso, a diolch i chi hefyd am eich ymrwymiad parhaus yn y maes gwaith hwn. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr, ac rwy'n cydnabod bod gennym ni lawer o waith i'w wneud o ran annog plant a phobl ifanc i fwyta'n iachach. Ddoe…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024
Diolch yn fawr iawn, Rhun, a diolch am eich croeso i'r cynllun cyflawni yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw. Fel y gwnaethoch ei ddweud yn gywir, dechreuodd y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn sgil Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac mae hi wedi bod yn dda…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024
Diolch i James Evans am yr amrywiaeth yna o bwyntiau, a hefyd am gydnabod maint y broblem yr ydym ni'n ei hwynebu ac am gydnabod bod y broblem honno wedi gwaethygu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod atal yn well na gwella, ac…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024
Bydd y cynllun yn datblygu dulliau gweithredu ar draws amrywiaeth o'n hamgylcheddau, o'r ffordd yr ydym ni'n bwyta ac yn prynu bwyd, o'r cartref i'n lleoliadau addysgol a hamdden er mwyn nodi sut y gallwn ni wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Fodd bynnag…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ail o bum cynllun cyflawni fel rhan o'n strategaeth 10 mlynedd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer 2022-24 yn defnyddio cyfuniad o gyllid, polisïau a deddfwriaeth i ddatblygu dulliau sy'n…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae gordewdra yn gyflwr cymhleth ac ni all y Llywodraeth na'r GIG ei ddatrys wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra
Yn ffurfiol.
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22
Diolch yn fawr iawn, Russell, ac a gaf i gymeradwyo eich geiriau caredig am Kaleidoscope hefyd? Rydym ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael sefydliadau trydydd sector gwych yn y maes hwn. O ran eich sylwadau am feirysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed, rwy'n hapus…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22
Diolch yn fawr iawn, John, am y pwyntiau hynny. I'ch sicrhau chi, nid dim ond un llythyr yr ydym wedi'i ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi pryderon am eu hymagwedd at y bartneriaeth â ni ar y materion pwysig iawn hyn. Yn amlwg, mae'r trafodaethau hynny'n…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22
Diolch yn fawr iawn, Peredur, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddod i'r grŵp trawsbleidiol, i un o'ch cyfarfodydd yn y dyfodol, ac rwy'n cydnabod bod hwn yn faes yr ydych yn teimlo'n angerddol amdano, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22
Diolch yn fawr iawn, James, am y geiriau caredig hynny, y croeso i'r datganiad ac am gydnabod y gwaith cadarnhaol, a hefyd am eich cwestiynau. Mae'n galonogol iawn eich clywed yn dweud eich bod chithau hefyd yn awyddus iawn i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio…
25 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n braf iawn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sy'n cael ei wneud o dan ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22, wrth i ni barhau i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio…
19 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am yr unigolyn ifanc y cyfeirioch chi ato. Rwy'n falch iawn o weld unrhyw sefydliad sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan hunanladdiad neu i atal hunanladdiad. Nid wyf yn…
19 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch. Darperir cymorth iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan y GIG ac amrywiaeth o bartneriaid. Mae rhaglen drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu manteision pellach.
19 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Mark. Fel y dywedoch chi, nododd adolygiad 2018 agenda radical ar gyfer newid, ond roeddem yn glir iawn y byddai’n rhaid gwneud hynny fesul cam. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Beat; rydym yn rhoi £100,000 i Beat. Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i…
19 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Mark. Rydym yn parhau i flaenoriaethu cymorth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn unol â’r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2018. Rydym wedi cynyddu buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017 i gefnogi gwelliannau teg i wasanaethau, gan gynnwys…