23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r gogledd yn amlwg yn rhan allweddol o'n huchelgeisiau economaidd ni yn y Llywodraeth. Fe fyddwn ni'n cryfhau cysylltiadau economaidd gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr drwy well cysylltiadau trafnidiaeth, drwy gydweithio trawsffiniol ymarferol, drwy…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cymryd mai rhoi anogaeth y mae cwestiwn yr Aelod i barhau â'r hyn yr ydym ni wedi dechrau ei wneud yn nyddiau cynnar y Llywodraeth hon, a chynyddu ein hymdrechion. O ran chwalu seilos, fe ddylwn i ddweud bod gwaith ar y gweill eisoes yn y Llywodraeth i…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n amlwg yn gytûn yn hyn o beth. Rydym ni'n gallu gweld gwaith da a wnaed yn ddiweddar ynghylch datblygu'r metro yn y de a sut mae hynny wedi trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn eu cymunedau eu hunain ac o un gymuned i'r llall. Rwy'n llawn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnes i fwynhau fy ymweliad yn ddiweddar â Phont-y-pŵl gyda'r Aelod a, do, fe wnaethom ni ymweld â'r Stryd Fawr a'r farchnad bryd hynny. Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned a dyhead i greu bywyd newydd yno, ac mae yna arwyddion gwirioneddol o'r bywyd…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â'r rhwystredigaeth sy'n cael ei leisio gan yr Aelod. Mae hwn yn fater sy'n destun pryder gwirioneddol i mi—sef pan fydd pobl yn gweld canol eu tref, maen nhw'n aml yn meddwl mai canol eu tref nhw yw'r un gwael. Cymerais ran mewn ymchwiliad gan y…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n adfywio'r dull o ymdrin â strydoedd mawr, gan gynnwys sefydlu tasglu canol trefi i nodi mesurau ymarferol, fel ardrethi annomestig a diwygiadau cynllunio, i gefnogi strydoedd mawr a busnesau lleol. Rydym ni eisiau i'n strydoedd mawr ffynnu a…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Unwaith eto, mae'r rhain yn enghreifftiau lleol, fel y bydd gan bob Aelod. Dwi'n atgoffa eto mai penderfyniadau i awdurdodau lleol ydy'r rhain yn y pen draw. Mae yna gwestiynau yn codi o ran llwybrau teithio llesol yn y cwestiwn yna. Mae hwnnw, o bosib, yn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Heb amheuaeth, mae yna enghreifftiau o arfer da ar draws Cymru, ac mi wnes i gyfeirio at y sefyllfa yng Nghaerffili. Mi fydd yr un peth yn wir mewn awdurdodau lleol hefyd. Ond mae hi'n amlwg yn wir fod yna heriau yn wynebu pob awdurdod lleol, yn cynnwys…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hwn yn un o'r materion yna, fel y dywedodd yr Aelod, lle bydd yna gydweithio yn lleol, dwi'n gobeithio, ar faterion sydd o bryder i rieni. Yr ateb byr i'r cwestiwn yna ydy y byddwn ni yn sicr yn gweithio efo awdurdodau lleol i chwilio am ffyrdd o wella…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni fel Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau ym mhob rhan o Gymru, gallaf eich sicrhau chi, yn derbyn gohebiaeth gan rieni ar adegau sydd â phryderon, yn gwbl briodol, am y ddarpariaeth o gludiant i'r ysgol. Mae hyn yn destun pryder iddyn nhw, ond mae'r…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gludiant i'r ysgol, ac rydym ni'n gweithio'n agos â nhw i gefnogi mynediad at addysg. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau y gall dysgwyr deithio'n ddiogel ac y gallan nhw deithio'n fforddiadwy. Yn rhan o hyn, rydym ni'n…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn codi cwestiynau cwbl ddilys. Fel gyda chynifer o bethau, rydym ni'n adolygu'r pethau hyn yn barhaus. Ond ym mis Awst y llynedd y cyflwynodd y Llywodraeth flaenorol fframwaith rheoleiddio diwygiedig. Bob tro y bydd diwygiad i'r fframwaith…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diben llwyr sefydlu Unnos yw rhyddhau'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol; mae'n fater o ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni. Mae gennym ni sector sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym ni'r stoc dai a gedwir o fewn rhai awdurdodau…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig berthynas agos iawn o fewn yr ardaloedd awdurdod lleol lle maen nhw'n gweithredu. Mae llawer ohonyn nhw'n gweithredu ar draws sawl ardal awdurdod lleol. Dyna pam mae hi mor bwysig bod rheoleiddio canolog yn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Lywydd, os caf i gyfeirio yn gyntaf at fy natganiad o fuddiannau Aelodau, sy'n nodi bod aelod agos o'r teulu yn aelod o fwrdd cymdeithas dai. I ateb y cwestiwn, rydym ni wedi ymrwymo i gael tai cymdeithasol wedi'u rheoleiddio'n dda, gan gydnabod bod cartref…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n gwestiwn hir iawn, iawn ac aml-lefel. Fe wnaf i geisio rhoi sylw i rai elfennau ohono, os gallaf. Ceir elfen o wrthgyferbyniad yno wrth ofyn i ni daflu arian, er enghraifft, at yr economi ac at ffermio, pan mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud mewn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n croesawu'r cwestiwn fel ffordd i mi esbonio fy nghred gadarn nad dyna beth sy'n digwydd, ac rwy'n gofyn iddo'n ddiffuant i drefnu cyfarfod yn gyflym gyda fy Ngweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, fel y gall egluro i'r Aelod beth yn union sy'n digwydd…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y cludwyr cerbydau awyr—fe wnaf i roi sylw i fater y cludwyr cerbydau awyr, mewn gwirionedd. Mae hwnna'n deitl llyfr, onid yw, The Phenomenon of Welshness—or, 'How many aircraft carriers would an independent Wales need?' Ateb: sero. Mae hynny'n eithaf…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i na fy mhlaid erioed wedi hyrwyddo nac awgrymu y dylai'r DU dynnu allan o NATO. Nid dyna fu safbwynt fy mhlaid erioed na safbwynt fy Llywodraeth rŵan, beth bynnag yr hoffai rhai pobl ei gyfleu. Rwy'n credu yn yr egwyddor a'r arfer o integreiddiad…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sylweddoli efallai fod yr Aelod yn newydd i Senedd Cymru, ond pe na bai, byddai wedi fy nghlywed ers 13 mlynedd, bellach, yn sôn am y manteision economaidd a all ddeillio o fuddsoddi mewn ynni niwclear yn y ffordd gywir, ac edrych arno o ran yr hyn sy'n…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roeddwn i'n meddwl ei fod yn mynd i barhau am annibyniaeth yn y fan yna. Roedd hwnna'n wahanol fath o annibyniaeth. Gwrandewch, rwyf i eisiau seilwaith sy'n gweithio i Gymru. Rwyf i eisiau seilwaith sy'n addas ar gyfer yr ail ganrif ar hugain, ac mae hynny'n…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n synnu braidd bod y blaid hon a oedd i fod i groesawu datganoli bellach ac eisiau gwneud iddo weithio i Gymru bellach yn dod allan yn agored ac yn dweud eu bod nhw yn erbyn datganoli i bob pwrpas. A wnaeth pobl alw am ddatganoli pwerau dros…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ofni y dylai'r Aelod fod yn ymwybodol ein bod ni eisoes wedi dweud ein bod ni'n adolygu'r trothwy 182 diwrnod yn barhaus. Byddwn yn nodi manylion y cynigion penodol maes o law. Ond gadewch i ni gofio pam y cyflwynwyd y mesurau hyn: rwy'n atgoffa'r Aelod…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn syml iawn, mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen ar unwaith. Rydyn ni'n cymryd camau ar unwaith i sicrhau datganoli llawn y pwerau dros ddŵr, a hynny'n cynnwys y pwerau i sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd i Gymru. Pam ydyn ni'n gwneud hyn? Er mwyn gwella…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n hapus iawn i gytuno â'r Aelod. Mae fy mhlaid wedi galw ers amser maith i gamau gael eu cymryd drwy TAW i helpu twristiaeth. Mae'n ddadl a wnaed gennym ni fel gwrthblaid, ac mae'n ddadl y byddwn ni'n dal i'w gwneud fel Llywodraeth. Mae hwn yn sector…