23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau twristiaeth ym Mangor Conwy Môn drwy weithgareddau Croeso Cymru, ond mae fy Llywodraeth yn benderfynol o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd sy'n deillio o dwristiaeth ac o wneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod bod Llywodraethau blaenorol wedi methu â chefnogi addysg uwch yn y ffordd y dylen nhw. Dyna pam rwy'n benderfynol ein bod ni'n dod o hyd i fath newydd o berthynas rhwng y Llywodraeth, y boblogaeth, busnesau a phrifysgolion, ac…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, soniais i am y cyfle sydd gennym ni yn yr economi werdd, ac mae'n real iawn yn etholaeth Gŵyr Abertawe. Ond mae yna sectorau eraill hefyd sy'n gysylltiedig ag addysg uwch, er enghraifft, sy'n rhoi rheswm i mi fod yn llawn cyffro am y dyfodol—y gwaith…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn, wrth gwrs, bod yr uchelgais yn sicr yn hanfodol yng Ngŵyr Abertawe, fel yng ngweddill Cymru. Gadewch i ni fod yn eglur bod effeithiau economaidd o'r mathau yr ydym ni wedi eu gweld yn y blynyddoedd diwethaf yn gadael etifeddiaeth sy'n…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Economïau lleol cryf yw sylfaen cymunedau sy'n ffynnu fel Gŵyr Abertawe. Bydd fy Llywodraeth i yn canolbwyntio ar ddatblygu economi sy'n creu swyddi da, yn datblygu sgiliau ac arloesedd, ac yn sicrhau bod mwy o gyfoeth yn cael ei gynhyrchu a'i gadw'n lleol…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog
Lywydd, dim ond datganiad cryno i'r Aelodau ar y rhybudd coch prin hwn o wres eithafol. Mae wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ar gyfer dydd Mercher a dydd Iau. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni roi sylw gofalus rŵan i'r rhybudd brys hwn a dilyn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Lywydd, efo'ch cytundeb chi, mi hoffwn i wneud datganiad byr am y rhybudd coch prin yma am wres eithafol, sydd wedi'i gadarnhau ar gyfer rhannau o Gymru yfory a dydd Iau. Mi all bob un ohonom ni yn fan hyn chwarae'n rhan i gadw ein hunain…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ystyried ein baner ni'n arwydd o falchder cenedlaethol aruthrol fawr ac nid wyf i'n cefnogi ei chamddefnyddio hi.
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd parch, cydsafiad a chwarae teg yn llywio dull y Llywodraeth hon o feithrin cymunedau sy'n fwy teg, diogel, ac unedig. Rydym ni'n dyheu am i Gymru fod yn genedl ddiogel a chynhwysol lle gall pobl a chymunedau ffynnu. Cafodd ein rhaglen cydlyniant…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae cyfoeth a bwrlwm economaidd yn gorfod bod yn gallu cael eu teimlo ym mhob rhan o'r wlad, ac mewn cymunedau efo nodweddion gwahanol. Un o'r syniadau tu ôl i Arfor, wrth gwrs, oedd gwneud yn siŵr bod ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod datblygu economaidd yn cefnogi busnesau ledled y wlad, gyda'r cynllun 100 diwrnod yn ceisio dod â phanel o arbenigwyr at ei gilydd i ystyried ffurfio asiantaeth datblygiad cenedlaethol i helpu i ddatgloi potensial…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod unrhyw benderfyniadau yn rhai y gallwn ni eu rheoli nhw yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddai'r Aelod yn ymuno â mi i alw am ddatganoli pob prosiect ynni o San Steffan i Gymru, oherwydd nid oes unrhyw…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe fyddwn ni'n adolygu ein polisïau cynllunio a seilwaith i sicrhau y bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i faint, lleoliad ac effaith gronnol datblygiadau ynni, gan gynnwys seilwaith trosglwyddo a dosbarthu, drwy'r system gynllunio. Fe fydd yr adolygiad…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gywir i ddweud fy mod i, a ni ar y meinciau hyn yn gefnogol i'r ymateb deddfwriaethol hwnnw, ac mae mynd i lawr y llwybr deddfwriaethol yn parhau i fod yn rhywbeth y gellir ei drafod. Mae yna raglen sylweddol o ddeddfwriaeth y mae angen i ni ei…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mewn ffordd, mae'r ateb yn y cwestiwn hefyd, ac mae'r Aelod yn sylweddoli yr her, ac mae cydweithio ar draws Llywodraeth yn rhywbeth dwi'n gobeithio fydd yn dod yn thema y byddwn ni'n dychwelyd ati dro ar ôl tro. Mae gwaith eisoes yn digwydd o fewn y…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n ymrwymedig i ddull gweithredu system gyfan o ran niwroamrywiaeth, sy'n adeiladu ar y cod ymarfer awtistiaeth ar gyfer gwella cysondeb, lleihau anghydraddoldebau a chyflawni canlyniadau gwell ledled Cymru. Fe fyddwn ni'n cryfhau hyfforddiant ac…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y peth pwysig i'w ddweud yw nad yw deallusrwydd artiffisial yn ymwneud â disodli staff, nid yw'n ymwneud â disodli barn glinigol, er enghraifft, mae'n ymwneud â lleihau tasgau gweinyddol fel gall clinigwyr ganolbwyntio ar y rhannau o'r swydd y gellir eu…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae arnaf i ofn nad wyf i'n gallu esbonio na disgrifio pa gyfarpar deallusrwydd artiffisial yn union sy'n cael ei defnyddio. Fe edrychaf i weld a allwn ni ysgrifennu at yr Aelod i roi syniad ynghylch y mathau o gyfarpar sydd ar waith. Ond y peth allweddol yw…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennym ni restr yna o ymyriadau technolegol ac sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial posibl a fyddai'n gallu ein helpu ni i drawsnewid y gwasanaeth iechyd yn wirioneddol. Rydym ni wedi ei wneud yn un o bynciau canolog ein cynlluniau ni i wneud gofal…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cefnogi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn modd diogel a chyfrifol yn y gwasanaeth iechyd. Mewn partneriaeth â'r GIG, rydym ni'n archwilio sut y gall technolegau o'r fath wella mynediad at wasanaethau i gleifion, ysgafnu'r baich gweinyddol i…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd fy Nirprwy Brif Weinidog yn falch iawn hefyd o fod yn y digwyddiad neithiwr ac am iddo fod wedi gallu rhoi anerchiad yn y fan honno. Unwaith eto, fe hoffwn i ategu geiriau'r Aelod, sy'n arddangos dealltwriaeth eglur unwaith eto o bwysigrwydd arweiniad…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd honna'n ffordd greadigol iawn, Lywydd, o gysylltu ei hun â sylwadau, braidd yn rhy agos, yr Aelod o Reform. O ran gangiau meithrin perthynas amhriodol, rwy'n eithaf eglur bod angen i ni ddeall beth yn union sy'n digwydd. Nid yw plismona wedi'i…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn cysylltu fy hun â'r sylwadau hynny ac yn cytuno â nhw, ac yn gwneud y pwynt eto mai ein cyfrifoldeb ni yma yw dangos arweinyddiaeth ar y math o ddadl. Ac mae hwnnw'n un beth cadarnhaol sy'n deillio o hyn, ein bod ni'n gallu dangos arweinyddiaeth…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn sicr, ac rwy'n gobeithio fy mod i'n siarad ar ran y Senedd gyfan hon wrth ddweud ein bod ni wedi bod yn falch o allu cynorthwyo pobl a ddaeth yma o Wcráin i ffoi rhag bwledi Putin. Rwy'n cofio'r ffilm a ddangoswyd ar Newyddion ar S4C am ferch a oedd wedi…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n tybio, Lywydd, y bydd yn rhaid i ni ddod i arfer â'r math hwn o gyfraniad, lle ceir ymgais yma i achosi holltau rhwng cymunedau. Ac ni wnaf i, fel Prif Weinidog, a gwn fy mod i'n siarad ar ran fy Llywodraeth, ymateb i hynna gan feinciau Reform. Do, fe…