Cynnig NDM9248 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu:
1. Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y blynyddoedd cynnar, addysg (gan gynnwys y Gymraeg mewn addysg), sgiliau, ac iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
2. Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd cyhoeddus a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
3. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): hinsawdd, natur, yr amgylchedd, cynaliadwyedd, a materion gwledig.
4. Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a chyfiawnder cymdeithasol. At hynny, caiff y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol.
5. Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): menter, datblygu economaidd, ymchwil a datblygu, ynni, trafnidiaeth, a chysylltedd.
6. Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, cyfathrebu, y Gymraeg, darlledu, y cyfryngau, a chwaraeon.
7. Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol, cymunedau, tai, cynllunio, ac adfywio.
8. Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): materion cyfansoddiadol, cyfiawnder, materion allanol (gan gynnwys cysylltiadau o fewn y DU a chysylltiadau rhyngwladol), masnach, materion sy’n ymwneud ag etholiadau’r Senedd, a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, ac i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ar gyfer pwyllgor yn adrannau 7 a 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (os bydd y Senedd yn cytuno ar y cynigion perthnasol y mae’n ofynnol eu cyflwyno o dan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024).
9. Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.
10. Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gyflawni’r swyddogaethau fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, ac ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Caiff y Pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â pheirianwaith ac effeithiolrwydd llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r gwaith gweinyddu a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
11. Pwyllgor Deddfwriaeth i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 21 a Rheol Sefydlog 26C, ac ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â deddfwriaeth, o fewn cymhwysedd neu’n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
12. Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 22.
13. Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 23.