Jest gair byr i ddweud fy mod i'n gwerthfawrogi'r cyfle i gwrdd â chi unwaith eto, i roi'r wybodaeth fwyaf diweddar o ran gwaith yr AIDAC, sydd bellach bytu bod hanner ffordd drwy'r bedwaredd flwyddyn mewn bodolaeth. Mae'n braf iawn cael eistedd yma yn un o dair, yn hytrach nag ar fy mhen fy hun hefyd, a dwi'n falch iawn o benodiadau y dirprwyon.
Dwi hefyd wedi cael ychwanegiadau pellach i'r ysgrifenyddiaeth hefyd. Ymunodd Clare Stock a Tim Morris gyda ni ym mis Awst y llynedd, a hefyd mae Emma Davies wedi'i phenodi'n bennaeth newydd i'r ysgrifenyddiaeth ym mis Rhagfyr llynedd. Ond dwi hefyd eisiau mynegi fy ngwerthfawrogiad i David Beckett ac Elizabeth Clark am eu cyfraniadau nhw a'u hymroddiad gwerthfawr nhw hefyd i'r ysgrifenyddiaeth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Er ein bod ni'n dîm bach, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran hyrwyddo gwaith ar wahanol fentrau allweddol, a hyderaf eich bod wedi darllen yr adroddiad blynyddol, sydd yn datgan hanes y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2023 a 28 Chwefror 2024.
Drwy gydol yr amser hwn, mae fy nhîm a minnau wedi ymroi yn ein hymdrechion i werthuso effaith deddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd yng Nghymru, ac i ymchwilio i ba welliannau y gellid eu gwneud i gryfhau ei heffeithiolrwydd.
Rydyn ni’n parhau i ddatblygu sawl adroddiad mewn cysylltiad â'r cyflwyniadau rŷn ni wedi’u derbyn. Y pum adroddiad sydd yn cael eu cynnal ar hyn o bryd yw: coed, gwrychoedd, safleoedd gwarchodedig, sancsiynau sifil ac ansawdd dŵr. Mae paratoi’r adroddiadau hyn wedi ymestyn y tu hwnt i’r llinell amser cychwynnol oherwydd cynnwys materion sy’n dod i'r amlwg, gan gynnwys canlyniadau pellach i’w hystyried ar y materion yma, a hefyd lefel y gwaith ychwanegol sydd wedi dod at AIDAC yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dwi’n siomedig nad ydw i wedi gallu sicrhau cyhoeddi adroddiadau yn ystod y cyfnod diwethaf yma. Ers 1 Mawrth y llynedd, rydyn ni wedi derbyn 10 cyflwyniad ychwanegol, sef dwbl nifer y flwyddyn flaenorol, sydd wedi gofyn am werthuso o fewn cwmpas ein prosesau adrodd cyfredol. Mae gan y cyflwyniadau hyn faterion manwl yn ymwneud â gorchmynion cadw coed, safleoedd gwarchodedig, allyriadau amonia, ansawdd dŵr a chynllunio datblygu lleol, gan ddod â’r cyfanswm presennol i 37. Felly, fel rŷch chi’n gallu gweld, mae yna amrywiaeth eang o wahanol faterion wedi dod o’n blaen.
Roedd un o’r rheini y tu allan neu y tu hwnt i gwmpas AIDAC ac, o ganlyniad i hynny, ni chafodd ei ddilyn ymhellach. Roedd y cyflwyniad hwn yn ymwneud â chloddio cast agored. Er hynny, er bod pethau, efallai, y tu allan i gwmpas AIDAC, rydyn ni’n cadw nawr i edrych ar y rheini bob chwarter i sicrhau a oes yna newid wedi bod i'r rheini, neu efallai oes yna rywbeth nawr sydd yn dod o fewn cwmpas. So, rydyn ni’n trial gwneud yn siŵr, er, efallai, fod pethau tu allan i'n cwmpas ni'n wreiddiol pan fydd materion yn dod atom ni, ein bod ni’n edrych ar y rheini ac yn cadw ailedrych arnyn nhw'n gyson.
Hoffwn ddiolch hefyd i’r pwyllgor am ei waith yn cefnogi datblygiad trefniadau llywodraethu amgylcheddol AIDAC hefyd, a’r adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd o ran ymarferoldeb y mesurau sydd gyda ni. Dwi’n hapus i dderbyn unrhyw gwestiynau ar rai o’r meysydd y gwnaethon ni drafod y llynedd o ran monitro ac yn y blaen, a’r gwelliannau oedd angen eu gwneud. Felly, wrth i ni symud ymlaen, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal ein hymroddiad i wella diogelwch yr amgylchedd yng Nghymru trwy ddeddfwriaeth Cymru. Mae’n hanfodol bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu'n effeithiol i esgor ar ganlyniadau amgylcheddol cadarnhaol. Mae’r dasg hon yn amlweddog, ac rwyf wedi ymrwymo i gydweithio ag amryw o randdeiliaid i ddatblygu atebion creadigol ac effeithiol ar gyfer cadwraeth amgylcheddol. Gobeithio y cawn ni gyfle, efallai, i drafod rhai o’r pethau rŷn ni’n gweithio arnyn nhw yn ystod y sesiwn. Diolch yn fawr.