7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod. Roeddem yn chwilio am uwch-arweinydd busnes gyda phrofiad, mewn gwirionedd, o redeg sefydliadau masnachol mawr, rhywun a oedd â chysylltiadau cryf â Chymru a dealltwriaeth graff o'r rhyngberthynas rhwng gwahanol sectorau. Mae…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Wel, dyna'n union y cwestiynau y mae gennym ni rai atebion iddyn nhw ein hunain, ond rydyn ni'n eu profi yn erbyn y gorau yn y byd. Felly, rydyn ni'n siarad â phobl am ba rai yw'r ecosystemau cychwynnol gorau yn y byd—beth allwn ni ei ddysgu oddi wrthynt?…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Wel, rwy'n credu y byddai'n sicr yn ein helpu ni yn fawr fel cenedl, rwy'n meddwl, pe baem yn gallu cyflawni cylchoedd cyllidebol amlflwyddyn, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai Llywodraeth San Steffan, rwy'n credu, gytuno ag ef. Oherwydd ym mhob un o'r nifer o…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Mae'n sicr yn hollol allweddol bod ein cenhadaeth o ran cynhyrchiant cenedlaethol a'r gwaith o gau'r bwlch cynhyrchiant yn cael eu trosi i ganlyniadau go iawn o ran bywydau pobl, a dyna pam, fel y nodais i yn fy natganiad, mae hyn yn y pen draw yn ymwneud â…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Pan etholwyd y Llywodraeth Lafur ym 1974 gyda'r addewid i greu asiantaeth ddatblygu, pryd wnaethon nhw greu'r asiantaeth ddatblygu? Ym 1977—tair blynedd. Dyma fi, chwe wythnos i mewn i'r swydd. Efallai y gellid fy nghyhuddo o fod yn rhy agored. Rwy'n dweud…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Roeddwn i'n falch o allu annerch bwrdd y banc datblygu yr wythnos diwethaf, a chawsom drafodaeth helaeth hefyd gydag uwch swyddogion gweithredol cyn y cyfarfod hwnnw. Rwy'n credu bod y banc datblygu yn elfen bwysig yn ein tirwedd economaidd; nid ydym yn…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am y cwestiwn. Yn fras iawn, rŷn ni wedi adnabod yn barod mai prif ffocws yr asiantaeth fydd galluogi busnesau sydd â'r potensial i ehangu i dyfu. Mae hynny'n golygu cefnogaeth wedi'i theilwra, gan adnabod beth yw union…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Rwy'n ceisio cadw fy atebion yn fyr, ond gadewch i mi ateb un o'r cwestiynau. O ran llywodraethu, ydym, rydym yn credu y dylai hwn fod yn gorff statudol, felly ein cynllun ni yw cyflwyno deddfwriaeth yn weddol fuan, cyn gynted ag y gallwn. Ni allaf roi…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ysbryd ei sylwadau a'r ffordd y mae hi wedi ymgysylltu â mi y tu allan i'r Siambr. Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau da i'w gofyn, ac mae rhai ohonyn nhw wrth wraidd y broses rydyn ni'n mynd i fynd drwyddi nawr. Ac rwy'n…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Rwy'n diolch i'r Aelod am ei ymateb. Hoffwn ganolbwyntio ychydig ar rai o'r meysydd lle rwy'n credu bod tir cyffredin rhyngom. Yn 'Gwneud i Gymru weithio', sef y ddogfen bolisi ehangach a oedd yn sail i'n polisi economaidd a nodir yn y maniffesto, fe wnaethom…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Mae'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i lunio'r asiantaeth eisoes yn bodoli mewn busnesau ledled Cymru ac yn y cysylltiadau cryf sydd gan Gymru tu hwnt i'r ffin. Dyna pam y bydd y panel cynghori'n cynnwys grŵp craidd o unigolion sydd â phrofiad busnes helaeth…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Rwy'n dymuno i'r asiantaeth newydd arwain dull gweithredu rhagweithiol sy'n canolbwyntio yn fanwl ar ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru, gan adeiladu ar gryfderau sefydledig wrth fynd yn graffach a hyrwyddo cryfderau cystadleuol Cymru yn rhyngwladol. Mae arloesi…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Awdurdod Datblygu Newydd dros Gymru
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Pan sefais i yn y Siambr i amlinelli ein cenhadaeth economaidd newydd i gau'r bwlch cynhyrchiant, fe wnes i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau nesaf ar gyfer sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i'r Aelod. Fe gododd nifer o faterion, ac er mwyn ymateb yn llawn ac yn gywir iddynt, rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu ati, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y bydd hi'n deall yn iawn, o ran y sicrwydd…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi sicrwydd ac nad ydym yn ychwanegu at unrhyw ansicrwydd yn hyn o beth. Nid yw'r hyn y mae'n cyfeirio ato yno yn berthnasol yn yr achos hwn, oherwydd mae'r foltedd dan sylw ar y…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Yn amlwg, fe fyddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r prosiect, sydd mor bwysig yn strategol i Gymru, fel y dywedais. Rwyf eisoes wedi cael trafodaeth gychwynnol gyda'r prif swyddog gweithredol ddydd Llun, nid yn unig i drafod y tân, ond hefyd yr…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Hoffwn innau hefyd gofnodi ein diolch i'r gwasanaethau brys—gwasanaeth tân canolbarth a gorllewin Cymru—a fynychodd y tân tua 8 p.m. ar 3 Mehefin. Gadawodd y criwiau tân y safle ddydd Gwener 5 Mehefin. Mae'n sicr yn rhywbeth y mae Tata yn amlwg eisiau ei…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Cefais adroddiad ar effaith y tân pan siaradais â phrif swyddog gweithredol y cwmni yr wythnos hon. Rhoddwyd cyfrif am yr holl bersonél a chawsant eu symud o'r ardal yn ddiogel. Mae'r cwmni'n arolygu'r difrod ac yn ystyried y camau nesaf mewn partneriaeth â'r…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n cytuno. Diolch i'r Aelod am yr holl gwestiynau perthnasol hynny, mewn gwirionedd. Mae gennym ni lawer o gynhwysion crai llwyddiant, fel rydw i wedi'u ddisgrifio, ac un ohonyn nhw, mewn gwirionedd, yw bod gennym ni brifysgolion gwych gydag arbenigedd…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn da iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr, efallai, at gael sgwrs arall gyda'r Aelod, gan dynnu ar ei phrofiad a'i harbenigedd amlwg ei hun. Rwy'n credu, sut allwn ni ei gael—? Rydych chi'n hollol gywir. Mae angen i ni, mewn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n croesawu cwestiwn yr Aelod yn fawr ac rydych chi'n gywir: rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddealltwriaeth ar y cyd ers amser maith ymhlith y rhai sydd wedi ystyried y cwestiwn pam mae Cymru, dros ddegawdau lawer, wedi tanberfformio o'i chymharu â'i…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwbl gywir i godi cwestiwn costau ynni: mae'n wir ar gyfer defnyddwyr unigol a theuluoedd; mae'n wir hefyd ar gyfer busnesau. Felly, rwy'n credu mai'r cwestiwn i ni yw: a allwn ni fod yn glyfar ac yn greadigol wrth ddefnyddio'r…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Mae'r sector twristiaeth yn rhan hollol allweddol o'n heconomi ni ac mae ganddo botensial mawr i dyfu. Nid ydyn ni, er enghraifft, ar hyn o bryd yn cyflawni cyfran ddigonol o ymwelwyr rhyngwladol i'r DU. Roeddwn i'n falch o groesawu rhai pobl o Ganada yn yr…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am roi hyn wrth wraidd ein trafodaeth y prynhawn yma, oherwydd os ydyn ni'n ystyried injan yr economi, yr injan hollol ganolog yw potensial ein pobl ifanc, sydd yn rhy aml o lawer, nawr ac yn ein gorffennol, wedi bod yn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni
Rydw i wir yn croesawu'r ysbryd y mae'r Aelod wedi cynnig ei sylwadau ynddo, ac yn sicr, fe wnaf dderbyn ei chynnig o weithio gyda'n gilydd, lle bo hynny'n bosibl, i lunio datrysiadau i'r problemau y mae'r bobl yr ydyn ni i gyd yn eu cynrychioli gyda'n gilydd…