14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Mae'n wych clywed am y pethau rhagorol sydd yn digwydd yn eich etholaeth chi, a dwi wir yn mwynhau clywed am yr esiamplau hyn. Dyna pam y mae o yn bwysig bod pawb ohonon ni yn cyfrannu y syniadau hyn a'r enghreifftiau hyn i ddatblygiad y…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Llywodraeth Cymru, a minnau fel Gweinidog, wedi ymrwymo i sicrhau bod diwylliant a chwaraeon yn hygyrch i bawb. Drwy'r gwaith ar ddatblygu strategaeth diwylliant a chwaraeon, rydyn ni'n edrych ar sut y gallwn ni gefnogi'r nod hwnnw. Drwy'r alwad am…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae'r cam cyntaf yn edrych ar y lleoliadau. Dŷn ni hefyd yn edrych ar ba ddata ychwanegol sydd ar gael, gan gynnwys oriau agor ac ati. Yr hyn sydd yn anodd ar y funud ydy bod gennym ni ddim darlun llawn er mwyn deall beth ydy'r rhwystrau a beth ydy'r pethau…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn adolygu'r wybodaeth sy'n cael ei gadw gan gyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i greu darlun cenedlaethol o gyfleusterau chwaraeon cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol ledled Cymru…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Dyna yn union pam dŷn ni'n edrych ar gyfleusterau ledled Cymru hefyd, a dyna pam dŷn ni'n dechrau efo naw awdurdod lleol sydd mewn gwahanol rannau o Gymru—rhai yn wledig, lle mae yna byllau nofio wedi cau—i ddeall yr heriau hynny a deall sut dŷn ni'n…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Mae Nofio Ysgol yn rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer nofio a diogelwch dŵr ysgolion, sy'n darparu cynnig cenedlaethol cyson o o leiaf 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion blynyddoedd 4 a 5. Mi ddechreuodd y gwaith hwn mewn naw…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am y cwestiwn. Dwi'n credu bod yna grŵp trawsbleidiol newydd yn mynd i gael ei ddechrau ar esports. Mae gennym ni ddwy blaid eisoes wedi ymrwymo i hynny, a gobeithio bod y sicrwydd dwi wedi ei roi fy mod i'n cydnabod y gallem ni fod yn gwneud mwy o ran…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi Esports Wales i ddatblygu sgiliau a llwybrau gyrfaol creadigol sy'n gysylltiedig ag e-chwaraeon. Rydyn ni'n ystyried cynigion ar gyfer buddsoddiad economaidd mewn e-chwaraeon wrth iddynt godi, a dŷn ni'n parhau i gefnogi…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am eich cwestiwn. Nid wyf yn gwybod, ond fe geisiaf gael gwybod beth yw'r sefyllfa. Fe fyddwch chi hefyd yn deall mai plaid wahanol a Gweinidog gwahanol a roddodd yr ymateb hwnnw ar y pryd, ond rwy'n hapus i ymchwilio ymhellach a sicrhau eich bod yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol hwnnw. Mae'n wych clywed am y prosiectau pwysig yma sydd yn digwydd rŵan, ac un o'r pethau dwi'n gobeithio y byddwch chi ac Aelodau eraill yn ei wneud, drwy'r alwad am dystiolaeth, ydy gyrru esiamplau lle mae hyn yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio drwy Chwaraeon Cymru a phartneriaid lleol i wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb yn Afan Ogwr Rhondda. Rydw i eisoes wedi sôn bod yna heriau a rhwystrau'n bodoli, a drwy'r strategaeth diwylliant a chwaraeon…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae'r rhain yn sgyrsiau byw iawn. Mae'r ffaith bod gyda ni Ddirprwy Brif Weinidog sydd yn arwain ar dlodi plant, bod gyda ni Mark Hooper sydd yn arwain ar drafnidiaeth, bod gyda chi fi, bod gennym ni Nerys Evans, sydd yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Dyna'r union waith rydyn ni yn ei wneud rŵan drwy weithio'n drawsbortffolio. Mae'r ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau, drwy'r strategaeth tlodi plant newydd, fod diwylliant, chwaraeon a'r cyfranogiad at y rheini'n rhan ganolog o'r gwaith yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Dwi wedi bod yn glir ers dod yn Weinidog ein bod ni eisiau sicrhau mynediad cydradd i bawb yng Nghymru, a’n bod ni yn cydnabod y rhwystrau sy’n bodoli ar y funud—rhwystrau y mae’n rhaid i fi weithio ar sail trawsbortffolio i'w goresgyn. Dwi’n falch bod Mark…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae hyn yn ganolog i’n gweledigaeth ni ar gyfer y strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd. Yn ein 100 diwrnod cyntaf mewn Llywodraeth, fe wnaethom ni gomisiynu archwiliad i gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru, a thrwy Chwaraeon Cymru, mi rydyn ni’n…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Dwi’n meddwl y byddwch chi yn debygol iawn rŵan o dderbyn gwahoddiad gan Amgueddfa Cymru i fynychu rhai o’u digwyddiadau hwyrnos nhw. Dwi heb fynychu fy hun, ond mae nhw eisoes wedi bod yn gwneud hyn, ac mae wedi bod yn wych gweld y croesdoriad o oedrannau…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mi ydw i'n ymwybodol o'r erthygl a gyhoeddwyd ar y wefan Nation.Cymru yr ydych yn cyfeirio ati. Mi oedd o hefyd yn cynnwys ymateb gan Amgueddfa Cymru. Mi ydw i'n sicr yn fyw iawn i'r cwestiynau sy'n cael eu codi. Dwi…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Dwi'n gobeithio fy mod i wedi ateb rhan o'r cwestiwn yna yn fy ymateb cyntaf, sef ydw, dwi'n credu eu bod nhw'n bwysig a dwi'n credu y dylid gwneud mwy. Yn wahanol i Weinidogion yn y gorffennol, dwi ddim yn credu mewn geiriau cynnes yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am fod yn rhywun sydd yn codi esports, a dwi'n cytuno efo chi—mae angen gwneud mwy o ran e-chwaraeon. Does dim digon o strategaeth wedi bod na digon o werthfawrogiad o'i bwysigrwydd o yma yng Nghymru. Drwy Cymru Greadigol, rydyn ni wedi…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Dwi'n hapus i ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Mae rhan gyntaf eich cwestiwn chi at Weinidog arall, sef Adam Price; nid yw'n rhan o fy mhortffolio i. Mae yna gydweithio agos ar y funud yn draws-weinidogol o ran y Tour de France. Fyddwch chi hefyd yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am y cwestiwn hwn. Fel roeddwn i'n dweud wrth fod gerbron y pwyllgor ac fel rydych chi wedi sôn, dwi'n bryderus dros ben ynglŷn ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a dwi'n edrych ymlaen i dderbyn cynigion ar gyfer yr ailddatblygu posib gan Amgueddfa…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Fe fyddwch chi yn gwerthfawrogi mai cwestiynau i fi ydy'r rhain, ac mae'n bosib holi'r Gweinidog cyllid yn y set nesaf o gwestiynau o ran hynny. Ond, yn sicr, o ran dyfodol lleoliadau cerddoriaeth, mae o'n rheswm pam mae'r 30 y cant yna wedi'i…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mi wnes i a swyddogion o Cadw gyfarfod efo Historic Houses Wales yr wythnos diwethaf, ac mi fydd swyddogion yn trafod ymhellach efo nhw o ran sut mae mynd rhagddo efo unrhyw waith cefnogaeth ac i archwilio beth…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am godi Sycharth. I fi fod yn glir, dwi yn ystyried bod Sycharth yn heneb o bwys cenedlaethol sydd â lle arwyddocaol yn hanes Cymru ac yn ein hunaniaeth ni fel cenedl. Mae'r heneb ar agor i'r cyhoedd. Mae yna arwyddion dehongli ar y safle. Yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Cadw yn gwarchod ac yn hyrwyddo henebion o bwysigrwydd cenedlaethol yng Ngwynedd Maldwyn drwy eu dynodi a thrwy ddarparu cyngor arbenigol, arweiniad a chymorth i'w perchnogion ar gyfer eu cadwraeth. Mae Cadw hefyd yn hyrwyddo ein treftadaeth drwy reoli'r…