16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am godi'r pwyntiau pwysig hynny. Yn ganolog i holl weledigaeth y Llywodraeth hon, o ran chwaraeon a diwylliant, mae sicrhau cyfranogiad i bawb a dim rhwystrau. Mae hwnna'n rhan o'n galwad ni am dystiolaeth ar y funud, sydd ar agor tan 19 Rhagfyr, felly…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio efo Llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig. Roedd yna adroddiad prosiect ar chwaraeon diogel a gyhoeddwyd yn 2025. Comisiynwyd hwn ar ôl ymgynghoriad helaeth efo cyrff llywodraethu, cynghorau chwaraeon…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Chwaraeon Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweithio'n agos gyda chyrff llywodraethu, clybiau a darparwyr chwaraeon cymunedol i hyrwyddo polisïau, hyfforddiant a gweithdrefnau diogelu cadarn. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r holl gyrff llywodraethu…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Mae'n hyfryd clywed am yr holl bethau gwych sy'n digwydd mewn gwahanol etholaethau. Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi bwrsariaethau i artistiaid a chynorthwywyr cynhyrchu o Gymru i fynychu gweithdai yn Rockfield Studios…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i fod yn glir? Mae yna greadigrwydd ym mhob cornel o Gymru, ond, oherwydd diffyg cefnogaeth flaenorol, diffyg strategaeth a diffyg eglurder o ran cefnogaeth gan Lywodraeth, dydy'r potensial hwnnw ddim wastad wedi'i wireddu. Yr hyn…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Wel, yn sicr, mae gennych chi etholaeth greadigol dros ben. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn Wrecsam ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer agoriad—wel, ailagor—Amgueddfa Wrecsam, ond agoriad yr amgueddfa bêl-droed, yr elfen yna. Dwi'n mynd i fod yn ymweld efo Wrecsam…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ar gyfer Cymru. Trwy'r strategaeth newydd, byddwn yn cydnabod bod y diwydiannau creadigol yn ganolog i fywyd diwylliannol, twf economaidd a phroffil rhyngwladol Cymru. Mi fydd Cymru…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i fod yn glir iawn fod pob marwolaeth ar ein ffyrdd yn drasiedi, ac mae diogelwch ar y ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon? Byddwn i hefyd yn meddwl na fyddai'r Aelod yn dymuno camarwain y cyhoedd, oherwydd mae'r data yn dangos…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Iawn, mi wnaf i. Yr hyn yr oeddwn i yn ei ofyn i'r Aelod, oherwydd natur yr hyn rydych chi wedi ei godi, a'r difrifoldeb, a'r ffaith eich bod chi yn dweud bod gennych chi dystiolaeth o hyn, dwi'n gobeithio eich bod chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Sori, ydych chi'n gofyn i fi ailadrodd?
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A fedrwn ni gadarnhau a oes yna broblem efo'r cyfieithu?
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Oes yna broblem efo'r cyfieithu?
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Grêt. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gobeithio bod yr Aelod wedi cymryd y cyfle i ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, gan ddarparu'r dystiolaeth yr ydych chi wedi ei nodi fan hyn, a hefyd ddarparu'r dystiolaeth honno i'r bwrdd iechyd. Mae'n…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Ie, ac mae gennym ni ddwy iaith fan hyn, felly mi ydw i'n mynd i ddefnyddio'r Gymraeg i ymateb. Diolch. Ydy'r Aelod â'r cyfieithu yn gweithio rŵan?
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae'n ddrwg gen i.
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, dwi'n mawr obeithio bod yr Aelod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet—
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, mi fyddwn i yn tynnu sylw'r Aelod at y datganiad sydd yn dod yn hwyrach heddiw o ran y gefnogaeth sydd yna o ran business rates efo nifer o'r busnesau, ac ati, rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Hefyd, wn i ddim a ydy'r Aelod ei hun yn gwybod beth ydy…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, diolch i chi, Vikki, am godi mater mor bwysig. Mae Aberfan, fel rydych chi'n dweud, yn enw lle y mae pobl yn ei adnabod yn rhyngwladol am yr holl resymau dinistriol hynny y gwnaethoch chi eu hamlinellu yn y fan yna. Rydym ni'n rhannu etholaeth ac, fel…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, diolch i chi am godi'r mater yna. Wn i ddim a ydych chi wedi codi hynny'n uniongyrchol efo'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal fel llefarydd, o ran y pwnc. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn awyddus i gwrdd gyda rhai o bob plaid, a byddwn i yn eich…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch am godi'r mater. Yn amlwg, rydych chi'n sôn am bethau sy'n digwydd rŵan, ac mi fyddaf i'n gwneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol o'r sylwadau. Fe fyddwn i hefyd yn gofyn i chi ei wneud o'n ymwybodol o'r safleoedd hyn fel ein bod ni'n gallu ymchwilio…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mae'n bwysig nodi nad ydy'r bwrdd iechyd wedi gwneud unrhyw benderfyniad ar ei gynllun gwasanaethau clinigol. Maen nhw'n dal i ddatblygu'r cynllun hwn ac opsiynau posib, cyn ymgynghoriad arfaethedig yn ddiweddarach eleni…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mi fydd yr Aelod wedi clywed datganiadau blaenorol gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, wrth gwrs, mi fydd yna ddiweddariadau i'r Senedd a chyfle i Aelodau graffu a rhoi mewnbwn pellach.
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, diolch ichi am godi hyn. Mae'r ffaith mai chi yw'r ail Aelod i godi hwn yn dangos faint o bryder sydd. Mae'n ffaith bod arolwg awdurdodau lleol a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi yn 2015 fod mwy na 9,000 o safleoedd posib sydd angen eu…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, gaf i ddiolch ichi fel Aelod am godi'r mater pwysig hwn? Mae'n ddrwg calon gen i glywed am yr effaith hynny ar etholwyr. Rydyn ni hefyd yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu o ran apwyntiadau wedi eu methu, efo nifer o bobl yn gorfod aros amser maith am…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Wn i ddim a oeddech chi yn y Siambr ar gyfer clywed ymatebion y Prif Weinidog ac a ydych chi wedi cael cyfle i weld bod yna ddatganiad yn hwyrach y prynhawn yma gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg o ran…