28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i gael trafodaethau gyda'i gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Fel y gwyddoch chi, ni fydd cyhoeddiad y cap prisiau yn cael unrhyw effaith o gwbl ar brisiau ynni am y cyfnod rhwng Ebrill a…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Na, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae'r polisi fel y nodwyd gan y Gweinidog blaenorol â'r cyfrifoldeb am dwristiaeth.
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. I wneud lle ar ei gyfer, mae'r datganiad llafar ar ddiwygio…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Gwyddom y gallai unrhyw gi yn y dwylo anghywir fod yn beryglus, a’r hyn rydym yn ei wneud yw hybu perchnogaeth gyfrifol. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth allweddol. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Mabon ap Gwynfor am y…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer lles cŵn yn rhoi gwybod i berchnogion am eu rhwymedigaethau o ran rheoli eu cŵn a’r ddeddfwriaeth sy’n eu llywodraethu. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy’r Bil Lles…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wel, fel y dywedais, rydym eisoes wedi ymrwymo i ystyried trwyddedu rasio milgwn fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid. Y cam nesaf nawr yw cael y ddeiseb. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau ac wrth Aelodau yn y Siambr yw y byddai’n…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Felly, i ateb eich pwynt olaf—ac rwy'n derbyn nad ydych wedi gweld fy ymateb hyd yma—argymhelliad 5, sef y dylem hefyd edrych ar chwaraeon eraill lle mae anifeiliaid yn cystadlu, yw'r argymhelliad a wrthodais, oherwydd, yn amlwg, ffocws ar rasio milgwn yw…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, ac roeddwn yn falch iawn o allu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion heblaw am un, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl a gynhelir yn y Siambr hon ar 6 Mawrth, ac mae'n debyg mai dyna'r cam nesaf. Ac yna cawn olwg ar beth arall…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Anfonais fy ymateb i'r adroddiad a gyflwynwyd ar y mater hwn ddoe at y Pwyllgor Deisebau a gadeirir gan yr Aelod, ac fel y nodwyd yn yr ymateb, bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Felly, yn amlwg, mae CNC yn dod o dan bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n cael cyngor gan CNC ynghylch y cynnydd yn y trwyddedau rheoleiddiol y cyfeirioch chi atynt. Rwyf wedi gwneud ychydig o ymchwil i hyn ar ôl cael gwybod mai…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth arall y gellir ei wneud i helpu ein perchnogion anifeiliaid anwes sy'n ei chael hi'n anodd bwydo a gofalu am eu…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu, mae'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd i gynnal amodau lles da i anifeiliaid anwes yn dod yn fwyfwy heriol. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r trydydd sector i fonitro'r sefyllfa ac yn falch o weld grwpiau lles…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lunio ar hyn o bryd. Rydym wedi mynd drwy broses sylweddol o gydgynllunio gyda'n rhanddeiliaid, felly ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi fel y gofynnoch chi amdano, ond yn amlwg…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ganlyniad i sawl blwyddyn o ddatblygu polisi ar draws portffolios gweinidogol, sy'n cynnwys trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae swyddogion hefyd wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion i…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Felly, fe'i crybwyllais yn ein grŵp rhyngweinidogol ym mis Rhagfyr ac yna ysgrifennais at y Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd. Fel y dywedaf, yn anffodus, nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw. Mae gennym gyfarfod pellach o'r grŵp…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae hwn yn amlwg yn gyfnod heriol iawn i'n ffermwyr i gyd, ac rwy'n gwybod bod ffermwyr dofednod ac wyau'n arbennig o ddibynnol ar borthiant ac ynni, dau faes lle'r ydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y costau oherwydd chwyddiant amaeth. Mae'r…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'r diwydiant wyau yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arian ar gael drwy ein cynlluniau grantiau cyfalaf, gyda chyngor a chymorth uniongyrchol ar gael i fusnesau fferm a bwyd drwy ein timau Cyswllt Ffermio a Busnes Cymru.
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb arbennig mewn newydd-ddyfodiaid, gan weithio gyda phobl i weld beth sy'n eu rhwystro rhag mentro i'r byd amaeth. Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn credu bod addysg a sgiliau wedi bod yn un o'r rhwystrau a gafodd eu dwyn i…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi ac annog pobl ifanc i fentro i'r diwydiant amaeth drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Mentro. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig ar gael i bob math o ffermydd ym mhob rhan o Gymru ac yn cefnogi…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r sector pysgodfeydd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r dirywiad a gofnodwyd. Rwy'n cydnabod eu bod wedi bod o dan bwysau digynsail yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID, gorchwyddiant prisiau tanwydd yn fwy diweddar a…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n fater rydym o ddifrif yn ei gylch. Byddem yn annog ceidwaid da byw yn gryf i barhau i roi gwybod i'r heddlu am bob digwyddiad. Rwy'n credu y dylwn ddweud hynny ar y cychwyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Nid wyf yn hollol siŵr sut rydych chi'n disgwyl i mi wneud i fferm fod yn rhan o brosiect peilot. Credwch fi pan ddywedaf fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi ceisio'n galed iawn—[Torri ar draws.] Fe geisiodd yr asiantaeth yn galed iawn i…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Nid oes unrhyw beth wedi mynd o'i le. Fel y dywed yr Aelod, mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau mewnol sylweddol ar hyn o bryd i gytuno ar baramedrau'r prosiect i ganiatáu ar gyfer ymarfer caffael llawn. Chi fyddai'r cyntaf i gwyno pe na bawn yn dilyn y…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Yn amlwg, fe wnaethoch amlinellu sefyllfa ofidus iawn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed eich bod chi a'r ffermwr yn teimlo nad oedd tosturi. Mae hwn yn waith a wnaethom, bedair blynedd yn ôl mae'n debyg, lle gofynnais i'r prif swyddog milfeddygol ar y pryd…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn. Gallaf sicrhau'r Aelod fod gwersi wedi'u dysgu, yn amlwg. Mae'n rhaid dysgu gwersi bob amser pan fo gennych chi'r adroddiadau a wnaethom. Fe fyddwch yn cytuno bod cryn dipyn o fonitro'n digwydd ar ein rhaglen datblygu gwledig, ac roedd…