6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl fyrddau iechyd ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, ond rydym ni'n amlwg yn cydnabod bod llawer o heriau, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cwrdd â'r…
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb wrth Jane Dodds ein bod ni wir yn gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol, felly mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn sicr yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ar hyn o bryd i weld beth…
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, rydym ni'n cydnabod pam mae cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio'r ffordd y gwnaethon nhw, a'r dicter a'r siom ymhlith cymaint o'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Rydym ni'n credu y dylai ein gwasanaethau brys gael eu…
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy mhortffolio i, ac rwy'n awyddus iawn i ymdrin â'r pryderon lawer sydd wedi'u codi gyda mi ynghylch rasio milgwn. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael deiseb sylweddol, ac rwy'n aros…
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, dydw i ddim yn ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi ynghylch y feithrinfa. Rwy'n credu y byddai'n well gohebu'n uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y tro hwn.
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Mae osteoporosis yn effeithio ar lawer ohonom ni a llawer o'n hetholwyr, ac yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad cyn gynted â phosibl o amgylch sefyllfa strep A. Yn sicr, rydym ni'n mynd i weld nifer uwch o achosion o heintiau strep A bacterol eleni o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf, ac…
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymadrodd 'argyfwng costau byw' a sut mae wedi dod yn rhan o'n hiaith ni, mewn gwirionedd, yn ystod y misoedd diwethaf. Roeddwn i'n siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore 'ma…
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae'r mater yr ydych chi'n cyfeirio ato mewn gwirionedd yn fater gweithredol i Trafnidiaeth Cymru, a byddwn yn eich annog chi i ysgrifennu at y prif weithredwr.
6 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae dau ychwanegiad at yr agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiwygio bysiau. Ac yn ail, rwy'n gwybod eich bod nawr wedi rhoi caniatâd i Gyfnod 4 o'r Bil Diogelu'r…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a gododd y mater pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o'r mater. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn y rôl hanfodol y mae ardaloedd o brydferthwch…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, a gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ôl inni golli prosesydd llaeth—yr anawsterau a achoswyd gan hynny. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld mwy o brosesu llaeth yma yng Nghymru, ac nad ydym yn…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei hanes cryf o fuddsoddi yn y diwydiant bwyd, fel a ddisgrifiwyd yn fy ngweledigaeth strategol a gyhoeddwyd y llynedd. Y mis hwn, lansiais £40 miliwn o fuddsoddiad drwy’r cynllun sbarduno busnesau bwyd newydd i…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Byddai'n well gennyf aros tan fy mod wedi cael fy nghyfarfod gweinidogol ddydd Llun i weld beth yw'r safbwyntiau eraill ledled y DU ac i weld…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Ers 1 Hydref 2022, mae tri achos o ffliw adar wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Roedd dechrau epidemiolegol yr achosion presennol ym mis Hydref 2021, a gwelsom achosion yn parhau i gael eu cadarnhau drwy gydol yr haf am y tro cyntaf. Rydym yn parhau i…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydych yn llygad eich lle, rwyf wedi cael llythyr ac rwyf wedi ymateb i Menter Môn mewn perthynas â'u pryderon ynghylch rhaglen yn lle LEADER yng Nghymru. Yn amlwg, ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau cyn y gyllideb ddrafft, ond mae fy swyddogion yn parhau i…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. O ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr UE, mae Cymru oddeutu £1.1 biliwn ar ei cholled. Fodd bynnag, fy mwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae'n ddeddfwriaeth bwysig iawn ar sawl lefel. Fe gyfeirioch chi at ddwy ohonynt, ond mae’r rhan o’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, i mi, yn bwysig iawn. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’r diben o gwbl. Rwy'n edrych…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwyf am gyfeirio at y ddau beth ar wahân. Felly, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ein blaenoriaeth yw lles anifeiliaid, fel y nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Ac mae pethau y gallwn eu gwneud ar ein pen ein hunain, ond hefyd, yn y cynllun…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil lles anifeiliaid, sy’n gwneud darpariaethau i sicrhau diwygiadau pwysig ar gyfer lles anifeiliaid a gedwir. Mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer holl gymalau'r Bil…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rwyf wedi cael cryn dipyn o drafodaethau, yn sicr yn ystod sioeau’r haf. Roedd gan Gwartheg ar Daith gornel wych yn sioe sir Benfro, lle roedd ganddynt lif cyson o blant ysgol yn mynychu, lle roeddent yn adrodd hanes y daten, sut y dechreuodd y daten…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr yn gweld y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn cael ei ymgorffori i'r maes hwn. Fel y soniais yn yr ateb a gyflwynais i chi, mae gennym lawer o gynlluniau rydym yn eu cefnogi, ac mae'n…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, yn ogystal â darparu buddion cymdeithasol drwy dyfu a gefnogir gan y gymuned. Mae cymorth ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned drwy…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Fel rwy'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd ac rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn ynghylch prosiect HyNet. Unwaith eto, cyfarfûm â Steve Rotherham ac Andy Burnham i drafod y rôl y gall HyNet a'r prosiect hydrogen ei chwarae ar…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Yn sicr, byddwn yn cytuno â chi ar y pwynt olaf ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig iawn fod gennym bartneriaid yn cydweithio mewn perthynas â rheilffordd Wrecsam-Bidston, ac mae hynny'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Merseyrail, a Llywodraeth Cymru ei hun…