13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Fe fyddwn i'n dra diolchgar, pan gaiff cytundebau cyllideb neu ddatganiadau eu gwneud yn y dyfodol, y bydden nhw'n cael eu gwneud i'r Siambr, ac nid o flaen llaw i'r wasg. Ond ymlaen at—. Rwy'n gofyn am ddatganiad, os yw'n bosibl, Drefnydd, gan y Gweinidog…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Brif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi. Gall chwaraeon gael effaith enfawr ar yr economi, fel rydyn ni wedi'i weld mewn llefydd fel Abertawe—pan wnaethon nhw gyrraedd yr Uwch Gynghrair, degau o filiynau o bunnoedd yn cael eu rhoi i'r economi yno—ac yma yng…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith chwaraeon proffesiynol ar economi Cymru? OQ64617
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Ymddiheuriadau, fe wneuthum ei enwi, felly fe ddaeth i ymateb, mae'n debyg. Rwy'n siŵr nad oedd yn ceisio torri unrhyw reolau. I gloi, rwy'n annog yr Aelodau heddiw i gefnogi ein cynnig i gael Cymru i symud eto. Diolch yn fawr.
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Ni wnaethoch ateb yr hyn roeddwn i'n ei drafod, eich dull o'r brig i lawr, Ken. Gadewch inni fynd yn ôl at eich gwir ddatganoli. Ond o ran ysgolion, euthum drwy fy addysg o dan Lywodraethau Llafur olynol yma. Nid oedd terfyn 30 mya y tu allan i fy ysgol i pan…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Yn sicr. Rwyf eisiau clywed hyn.
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Diolch, Lywydd. Fel roeddwn i'n ei ddweud, clywsom hefyd o'r meinciau gyferbyn ynglŷn â sut nad oedd rhai cynghorau wedi gwrthdroi'r penderfyniad. Oherwydd y cyflwr y gadawodd Llafur y cynghorau ynddo, yn brin o arian, efallai na allant fforddio gwneud hynny…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
O, rwyf—
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Beth? O, Weinidog, mae gennych fwy i'w ddweud eto nawr, oes? Ai dyma ddemocratiaeth Plaid Cymru? Heclo o'r meinciau blaen ar ôl cael munudau o'ch amser eich hun. Credwch fi, mae gennyf ddigon i'w ddweud, Weinidog. Mae'r penderfyniad hwn heddiw yn bwysig o ran…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Diolch, Lywydd. Wel, fe fydd yr awdurdodau lleol hynny'n cael eu profi ar hynny y flwyddyn nesaf, os mai dyna oedd yr ymateb, gan y byddwn yn edrych ymlaen at fynd â'r mater hwn yn ôl allan ar garreg y drws a gadael i bobl Cymru benderfynu a oedd hwn yn…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Y pryder arall y mae pobl yn ei adrodd wrthyf o ran cau swyddfeydd post—boed hynny yng Nghaerffili neu ledled yr etholaeth—yw, pan fydd y swyddfa bost yn cau, nid oes modd cael ID, dulliau adnabod, a'r gwasanaethau ychwanegol…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Drefnydd, fe fyddwn i'n dra diolchgar pe cawn i ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd. Ychydig ddyddiau ar ôl yr etholiad i'r Senedd, roedd Archwilio Cymru yn adrodd bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi dyfarnu £10 miliwn o gontractau meddygon teulu, a'u bod…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Drefnydd, byddwn yn ddiolchgar pe bawn i'n gallu cael datganiad ar orlenwi trenau lleol. Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr i Rymni ar hyn o bryd yw'r trydydd gwasanaeth gwaethaf o ran gorlenwi rhwng oriau brig yn y DU. Mae'r gwasanaeth…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Brif Weinidog, mae etholwr wedi dod ataf i sy'n methu â gweithio erbyn hyn am fod ganddo hernia. Mae wedi bod yn aros bron i 36 wythnos am ei lawdriniaeth. Mae'n byw mewn poen. Mae'n teimlo bod hyn yn effeithio ar ei fywyd teuluol, ei berthynas â'i blant, y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG ym Mlaenau Gwent Caerfilli Rhymni? OQ64559
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Gangiau grŵmio
Mae'r £65 miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth y DU. Mae'n senario ryfedd; dylai'r Gweinidog cyllid yma fod yn falch nad yw Reform yn gofyn iddi wario unrhyw arian o gyllideb Cymru heddiw. Rhaid ein cynnwys yno, a gobeithio, pan fyddwch yn cyfarfod â…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Gangiau grŵmio
Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i bob Aelod a geisiodd gyfrannu at yr ysbryd roeddem yn gobeithio y byddai'r ddadl heddiw yn cael ei chynnal ynddo? Paul, mae eich dewrder yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom. Mae'r hyn yr aethoch chi a'ch teulu…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Lywydd. Drefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ar ddympio PCB yn hanesyddol yng Nghymru? Yn fy etholaeth i fy hun, fe gafodd gwastraff gwenwynig ei ollwng yn chwarel Tŷ Llwyd yn Ynysddu ac…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Bydd yr aelodau wedi gweld ddoe bod y Scarlets wedi llofnodi cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru, ond, yn hytrach na'i weld fel llwyddiant, cafodd ei ddisgrifio ar y BBC fel 'rhywbeth dros dro yw heddwch'. Mae rygbi Cymru mewn cyfnod ansicr, yn enwedig yr…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Drefnydd, rydym ni wedi clywed sawl tro nawr oddi wrth y Llywodraeth, yn cynnwys y Gweinidog dros gyllid ei hun pan aeth hi o gwmpas y cyfryngau yn sôn am y gyllideb sydd i ddod, nad oedd y cyllid fel roedd Plaid Cymru yn credu y byddai. Mae hynny ar ôl…
30 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae Cymru yng nghanol yr hyn sy'n argyfwng tai. Rwy'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei thargedau adeiladu tai, ond roeddwn i'n tybio a allai'r Trefnydd berswadio'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i ddod ymlaen i esbonio…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai
Rwy'n adleisio llawer o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn y Siambr heddiw. Mae'n bryderus, yr ôl-groniad cynnal a chadw. Dyna pam y gwnaethom ychwanegu'r gwelliant heddiw, ac rwy'n falch o'i gefnogi. Mae angen yr arian hwnnw ar frys. Mae ei angen ar ysbytai nawr…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Blaenoriaethau ar gyfer Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
Weinidog, rwy'n credu fy mod i wedi clywed llefarydd Llafur a llefarydd y Ceidwadwyr yn gofyn i chi yn glir am gost, ac nid wyf yn credu yn eich holl atebion fy mod wedi clywed un gost yn ymwneud â faint mae'r comisiwn newydd hwn yn mynd i gostio. Ar ddiwrnod…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Drefnydd, wythnos diwethaf, fe gefais i ymateb i gwestiwn ysgrifenedig oddi wrth Weinidog Iechyd y Cabinet. Roeddwn i ychydig yn bryderus am nad oes gan Lywodraeth Cymru ddata ar hyn o bryd ynghylch nifer y cleifion sy'n cael eu tynnu oddi ar restrau aros yng…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb yna. Brif Weinidog, mae cannoedd o ddisgyblion yn wynebu toriadau i gludiant hanfodol i'r ysgol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ymunais â phrotestwyr ychydig wythnosau yn ôl, ac rwyf i wedi cerdded y llwybr newydd posibl fy hun…