6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n rhaid i ofal plant a ariennir fod yn hyblyg i deuluoedd ac yn gyflawnadwy i ddarparwyr. Rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr cofrestredig i ehangu'r ddarpariaeth yn gynaliadwy a symud i system symlach sy'n haws i rieni ei llywio. Wrth…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y gwir amdani yw, pan wnaethon ni drafod hyn yn y ffynhonnell, yn ôl yn y pwyllgor bryd hynny, roedd yn ymwneud â gwneud y ddau. Roedd yna gydnabyddiaeth nad oedd hwn yn fesur a fyddai'n atal alcoholigion rhag cael alcohol, oherwydd maen nhw'n gaeth i…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roeddwn i'n rhan o'r pwyllgor yn y Senedd cyn diwethaf a fu'n asesu manteision ac anfanteision cyflwyno isafbris am alcohol. Roedd yna eraill yma a oedd ar y pwyllgor hwnnw gyda mi. A'r casgliad y daethom iddo oedd, yn union fel gyda sigaréts, gall effaith…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gwybod, wrth gwrs, nad miliwnyddion rydyn ni'n sôn amdanyn nhw yn y fan yma trwy gyffredinoliaeth, ond teuluoedd sy'n gweithio'n galed, y rhai ar gyflogau canolig, y rhai ar gyflogau canolig y mae'r Aelod yn dweud y dylen nhw gael eu heithrio o…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, does dim toriadau i Dechrau'n Deg. Rydyn ni'n adeiladu llawer ar Dechrau'n Deg wrth gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael unrhyw le yn y DU, ac rydyn ni'n credu yn yr egwyddor o gyffredinoliaeth. Rwy'n synnu mai dyma'r eilwaith y mae'r arweinydd…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n siŵr fy mod i newydd glywed arweinydd Reform yn fy nghyhuddo o fod ag ideoleg amheus pan ddefnyddiodd hi'r geiriau 'sero net gwirion'. Rŵan, mae hynny'n wallgofrwydd ideolegol newid hinsawdd wedi'i lapio yng ngeiriau arweinydd Reform yma yn y Senedd…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ei roi ar y cofnod fel bod arweinydd Reform yn gallu ei ddarllen wedyn, gan nad oedd hi'n gwrando arnaf o'r blaen, fy mod i wedi mynd i'r afael yn uniongyrchol â'i chwestiwn ar y bleidlais yng nghynhadledd y Blaid Werdd, ac fe…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnes i ateb eich cwestiwn. Lywydd, fe wnes i ateb y cwestiwn.
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na. Fe wnes i ateb eich cwestiwn.
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf bob amser wedi cefnogi'r ateb dwy wladwriaeth, ac roedd y penderfyniad a gymerwyd yng nghynhadledd y Gwyrddion yn un annoeth, yn fy marn i. Dydw i ddim yn cytuno â'r cynnig hwnnw. Mae'n rhaid i mi, fodd bynnag, gyfeirio at y sylwadau cychwynnol a wnaeth…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd eich arweinydd yn dal ei ben yn ei ddwylo, rwy'n credu, yn ceisio rhoi pellter rhyngddo ef a Reform—a dyna ni: curo'r byrddau ar feinciau Reform at eich dadleuon ymynysol dros Gymru. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn bod y Llywodraeth, i ddefnyddio'r math o…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â'r agwedd honno—bod ein cysylltiadau rhyngwladol yn gallu dod â buddion gwirioneddol i bobl Cymru a bod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny. Fe wnes i fwynhau fy nghyfranogiad gyda Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad dros 10 mlynedd fel cadeirydd. Rwy'n…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn. Mae'r grwgnach o feinciau Reform pan soniodd yr Aelod fod gan Gymru ddrws i'r byd yn siarad cyfrolau, rwy'n credu, am blaid sydd eisiau cau pob cyfle i Gymru. Bydd y Llywodraeth hon, fel y dywedais, yn rhyngwladol ei rhagolygon, yn…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gwario arian ar 'bob math o bethau' yn dipyn o ddadl i'w chyflwyno. Fe ddywedaf i wrthych chi beth mae Llywodraeth Cymru yn sicr i fod i'w wneud yn ôl y gyfraith: ceisio'r gorau i Gymru. Mae ein gweithrediadau rhyngwladol yn ymwneud â cheisio cytundebau…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf bob amser wedi addo, fel rhyng-genedlaetholwr, y bydd fy Llywodraeth yn rhyng-genedlaetholaidd ei rhagolygon ac yn ceisio cyfleoedd bob amser i werthu Cymru i'r byd. Trwy ein rhwydwaith tramor, mae gennym gyfleoedd i gefnogi allforion, i ddenu…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn clywed y pryderon, ac mae'r ddadl sydd wedi'i chyflwyno gan yr Aelod heddiw yn ymhelaethu ar bryderon sydd wedi'u codi mewn mannau eraill. Penderfyniad i'r bwrdd iechyd yw hwn, wrth gwrs, ac mae ymgynghoriad wedi dechrau ar opsiynau arfaethedig…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd yr Aelod yn gwybod ei fod wedi bod yn bolisi hirsefydlog o'r blaid rwyf yn ei harwain i fynd ar drywydd y math hwnnw o ryddhad gwledig. Mae ein pwysau ar Lywodraeth y DU wedi tueddu, am resymau amlwg, i dargedu prisiau ynni a thanwydd cartrefi yn…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr hyn y mae'r Aelod yn ei wneud, unwaith eto, yw pwysleisio nifer o'r materion hynny y mae cwestiynau penodol yn eu cylch sy'n ymwneud yn fwy ag ardaloedd gwledig nag ag ardaloedd trefol. Fe allwn ni dynnu sylw at bris tanwydd nawr, sy'n broblem i bawb yng…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel y dywedais i, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon wedi cynnig camau penodol i fynd i'r afael ag ef. Rydyn ni eisiau bod yn Llywodraeth i Gymru gyfan. Rwy'n cytuno bod yna adegau lle mae wedi teimlo fel nad yw anghenion penodol ardaloedd gwledig…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n canolbwyntio ar wella gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru. Rydyn ni'n cydnabod bod angen ymateb i'r heriau penodol sy'n wynebu cymunedau gwledig er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yng nghefn gwlad Cymru. Bydd ein cynnig ar gyfer…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prynhawn da i chi i gyd.
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n petruso dim cyn dweud wrth gwrs fy mod i'n cydnabod bod yna bryderon gwirioneddol mewn cymunedau. Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi siarad yn eang ynglŷn â'r angen i'r Swyddfa Gartref fod â phrosesau gwasgaru ar waith sy'n adlewyrchu anghenion…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ein huchelgais ni yw i bawb yng Nghymru gael mynediad at dŷ fforddiadwy o ansawdd da mewn ardal sy'n briodol ar eu cyfer nhw. Llywodraeth y DU sy'n penderfynu faint o bobl sy'n ceisio lloches a fydd yn cael eu lletya yng Nghymru. Rydym ni'n gweithio gyda'r…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n llongyfarch yr Aelod ar ennill yn y raffl i ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog unwaith eto. Nid wyf i'n gwybod pam mae hi'n dewis peidio â gofyn cwestiwn ynglŷn ag iechyd, ynglŷn ag addysg, ynglŷn â chryfhau economi Cymru, cefnogi ffermydd teuluol, codi…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r setliad datganoli presennol wedi dyddio, mae'n cyfyngu ar ein posibiliadau economaidd ac yn rhwystro ein gallu i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau i bobl yng Nghymru. Ein blaenoriaethau cyfansoddiadol uniongyrchol yw datganoli plismona a…