29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar drethi lleol. Rwy'n gwybod nad wyf erioed wedi cwrdd â chynghorydd lleol nac arweinydd cyngor sydd eisiau cynyddu'r dreth gyngor mewn ffordd sy'n effeithio ar eu hetholwyr…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn hollol iawn. Mae'r gwendid sylfaenol yna yn y model yn gwneud penderfyniadau gwariant, p'un ai ar gyfer ardaloedd trefol neu wledig, yn anghymesur o annheg. Mae'n sicr yn wir y gall cymunedau gwledig wynebu costau a heriau ychwanegol wrth…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn adlewyrchu pryderon sydd, heb os, yn bodoli ar draws llywodraeth leol yng Nghymru, ac maen nhw'n bryderon sy'n cael eu hadlewyrchu gennym ni yn y Llywodraeth hefyd. Yn hollol, bron i 20 mlynedd o doriadau erbyn hyn—roedden nhw'n arfer ei alw'n…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, gan rywun a oedd â rôl weinidogol ym maes llywodraeth leol ac a fu'n gyfrifol, mewn gwirionedd, am ysgogi gwaith i edrych ar y fformiwla. Oherwydd mae yna deimlad, rywsut, fod angen ei fireinio, a bod angen i'r mireinio…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni wedi cyflawni ein hymrwymiad i gomisiynu adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol yn y 100 diwrnod cyntaf. Mae ymchwil annibynnol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi'i chomisiynu, hefyd yn ategu rhaglen helaeth o waith sydd eisoes…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae'r camau yn gamau y gall Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu cymryd—dyna'r hyn sy'n cael ei nodi yn y Ddeddf. Rwy'n pwysleisio eto fod hyn yn rhywbeth rydyn ni'n ei ystyried yn bwysig iawn o ran bywyd cyhoeddus yng Nghymru, a dyna pam rydyn ni'n…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel yr esboniais yn fy ateb cychwynnol, does dim rôl gan Lywodraeth Cymru i orfodi pan ddaw i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae pob corff cyhoeddus yn gyfrifol am ei gydymffurfiaeth ei hun â gofynion y Ddeddf, yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth y mae fy…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae pob corff cyhoeddus yn gyfrifol ei hun am gydymffurfio efo Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar ddiogelu data. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arfer da drwy ymgysylltu efo cyrff cyhoeddus, tra’n cydnabod ac yn adnabod…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Mae'n gwestiwn pwysig ac yn gyfle i egluro beth ydy'r meddwl tu ôl i hyn. Mae gennym ni, am y tro cyntaf erioed, Weinidog sydd yn gyfrifol am iechyd ataliol. Mae hynny ynddo'i hun yn gam pwysig ymlaen, achos beth sydd gennym ni rŵan ydy pencampwr dros…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Diolch yn fawr. Rwy'n atgoffa'r Aelod ei bod wedi pleidleisio yn erbyn cyllideb atodol a oedd yn cynnig cyflwyno materion fel gofal plant a oedd yn bwysig iawn iddi. O ran targedau tlodi plant, mae hyn wedi bod yn fater mawr gan fod gennym 27 mlynedd o…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Rydw i wedi clywed llawer o'r busnes cynllun ar gyfer cynllun hwn. Mae'r llywodraeth yn gweithio allan atebion i'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu fel cenedl. Dyna beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Mae gennym faniffesto sy'n nodi pethau rydyn ni wedi'u…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn a'r teimlad y tu ôl iddo, ac ni allwn gytuno mwy. Roedd yn ostyngedig iawn, nôl ym mis Mai, i weld gwahanol gymunedau yn eu lleoliad daearyddol, yn eu hamrywiaeth, yn troi at Blaid Cymru ac yn rhoi eu hymddiriedaeth ynddi, ac…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
I fod yn agored yma, roeddwn i'n gwrando ar y Trefnydd yn rhoi'r hyn a alwodd yr Aelod yn ateb 'dirmygus'. Yr hyn a ddywedodd y Trefnydd yn gynharach oedd ei bod yn credu bod yna dlodi ym mhob rhan o Gymru y mae angen mynd i'r afael ag ef. Ac rwy'n deall yn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Wel, does dim byd wedi newid. Rwy'n credu mewn Cymru sy'n gallu mynd ar drywydd ei dyfodol fel gwlad normal. Rwy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru. Rwy'n credu bod pawb yn gwybod hynny. Roedd ein maniffesto yn nodi'n glir ein bod yn credu y dylai siâp ein…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau ac am y cwestiwn yna. Ydy, mae hwn yn un o'n prif flaenoriaethau ni. Dydy safonau ein hysgolion ni ddim lle, dwi'n meddwl, rydyn ni i gyd yn fan hyn yn cytuno y dylen nhw fod. Mae'r fframwaith llythrennedd a rhifedd, dwi'n…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, y tir cyffredin sydd gennym, ac mae'n gadarnhaol iawn bod gennym dri arweinydd plaid nawr sy'n dweud eu bod eisiau gweithio'n gadarnhaol ac yn adeiladol. Ni fydd ar bopeth—mae gwahaniaethau rhyngom, rydyn ni'n gwybod…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Rwy'n diolch i'r arweinydd Llafur am ddechrau ei gyfraniad mewn ffordd gadarnhaol. Mae llywodraethu yn anodd, fel y gŵyr. Ni fu erioed fwyafrif yn hanes datganoli, ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weithio ar draws y Siambr hon mewn sawl ffordd, gan gynnwys…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd Reform am gytuno ein bod yn cael ein blaenoriaethau'n iawn yn y rhaglen lywodraethu hon ac am addo gweithio mewn ffordd gydweithredol i'n helpu i gyflawni. Dyna'n union sut rwy'n credu y dylem weithredu yma. Mae'r Aelod yn hollol…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Cymru, gweithio efo'n gilydd a chymryd agwedd hirdymor, mi allwn ni adeiladu cenedl fwy hyderus sy'n barod i wireddu ei photensial enfawr a rhoi gobaith i bobl ar gyfer y dyfodol.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Yn sail i hyn i gyd mae ein penderfyniad i gyflawni trwy lywodraeth well. Mae Llywodraeth well yn golygu canolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf pwysig, gweithio ar draws ffiniau traddodiadol a sicrhau bod ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Rydym ni'n credu yn ein cenedl, ac mi fyddwn ni'n cymryd pob cam posibl i ddatgloi ei photensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn. Mi fyddwn ni'n parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cyllid, y buddsoddiad a'r pwerau…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Yn olaf, bydd fy Llywodraeth yn ddiwyro ac yn ddiymddiheuriad wrth sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan bob amser.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Ni ddylai incwm teulu nac amgylchiadau geni plentyn byth bennu ei ddyfodol. Mae Cymru lle y gall pob plentyn ffynnu yn Gymru lle mae cyfleodd ar gael i bawb, a lle mae pob cymuned yn gryfach. Dyna pam, drwy'r rhaglen hon, y byddwn ni'n gweithredu ar draws y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Ni allwn ac ni fyddwn yn derbyn mai dyma'r gorau a gawn o ran ein system addysg. Ein dyletswydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf yw gwireddu eu gobeithion a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol â lefel newydd o uchelgais na bennwyd erioed o'r blaen gan unrhyw Lywodraeth…