6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw yma. Dwi ddim yn gwbl argyhoeddedig a oedd angen y datganiad yma heddiw yma. Dydy o ddim yn arwydd da iawn bod Gweinidog yn gorfod egluro, ar ôl delifro’r datganiad, beth oedd pwrpas y datganiad hwnnw. Ydy, mae…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid oes dim byd o'i le ar gael ymchwiliad yn edrych ar sut yr oedd y rhyngddibyniaeth yn gweithio. Rydych chi'n dweud na allaf i gyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi craffu ar hyn. Gadewch i mi ei gwneud hi'n gwbl eglur: rwy'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi'r…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi ei eisiau yn weddol fuan, ond gadewch i mi fod yn eglur: trwy wrthod ymchwiliad penodol i Gymru, rydych chi'n cytuno i bob pwrpas â'r oedi hwnnw, ac mae'n anochel y bydd y sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn gwanhau o geisio cyfeirio'r…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi barhau â'r thema honno, a chloddio ychydig yn ddyfnach os caf i. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer Cymru yn unig. Mae eich Llywodraeth—ac rydych chi wedi ei…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021
Diolch, Weinidog, am y datganiad o gwmpas y rheoliadau newydd yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma, er mai cyd-destun y rheoliadau yma ydy penderfyniad i beidio â llacio ymhellach. Mi oedd yna gyfle yma i edrych ar ambell i elfen ac i wthio'r ffiniau…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021
Roedd yn fwy o fater o ofyn am eglurhad yn hytrach na rhoi pryd o dafod i chi.
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021
Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb?
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad, ac mae hwn yn rhywbeth dwi'n ei groesawu fel cam i'r cyfeiriad cywir. Mae yna frawddeg yn y datganiad sy'n fy mhoeni i. Mi ddywedasoch chi yn ystod y pandemig fod gweithwyr gofal…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ond gadewch imi ddweud wrthych yn fy marn i ble fydd y cynllun hwn sydd gennych yn dechrau dadfeilio. I mi, ym mrawddeg gyntaf un y rhagair y mae hynny. Y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd honna'n rhestr hir iawn o esgusodion ynghylch pam nad yw'r Llywodraeth wedi cymryd y camau, mewn dros 20 mlynedd, a allai o leiaf ddangos i ni fod Cymru o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â thlodi plant. Ond, o dlodi plant i'r anghyfiawnder tai yr oeddwn…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, fe'm trawyd gan un gair yn y fan yna: 'normal', 'normalrwydd'—rhywbeth yr ydym ni i gyd yn edrych ymlaen ato, mewn sawl ffordd, yng nghyd-destun y pandemig hwn. Ond mae tlodi wedi mynd yn rhy normal o lawer; mae tlodi plant wedi mynd yn llawer…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Mae adroddiad diweddaraf y Sefydliad Bevan a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn ddigon i sobri unrhyw un. Dwi'n gobeithio y gwnaiff o ddeffro'r Llywodraeth yma i weld dyfnder effaith tlodi ar ein cymunedau ni—problemau sydd wedi dod yn fwy amlwg…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Roeddwn yn teimlo rheidrwydd i gyfrannu yn y ddadl hon, yn bennaf oherwydd, fel Jane, cefais fy nharo gan gywair llawer o'r hyn a glywais yma heddiw. Efallai mai ei anian hwyliog naturiol ydyw, ond bron nad oeddwn yn meddwl bod Darren Millar yn mwynhau…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, Weinidog. Mi ydych yn gwybod fy mod i wedi tynnu sylw droeon at ddiffyg eiddo priodol ar gyfer cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. Dwi wedi gwthio am fuddsoddiad o'r fath, ac wedi gwerthfawrogi cyfarfodydd efo chi a'ch swyddogion am hyn yn y gorffennol. Ond…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hybu'r sector fwyd yn Ynys Môn? OQ56632
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhyw bedwar neu bump o gwestiynau, dwi'n meddwl, gen i. Y cyntaf jest yn dilyn ymlaen o'r pwynt olaf yn y fan yna: oes gennych chi ddiweddariad i ni ar y gwaith sydd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y brechiad…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ac wrth gwrs, mae angen i ni gyfeirio pobl at y math iawn o gymorth, ond allwn ni ddim bychanu pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol CAMHS ychwaith. Ac fe fu cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn ystod pedwar mis cyntaf eleni o'i gymharu â'r llynedd. Ond fe…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae yna, wrth gwrs, straen ar wasanaethau arbenigol CAMHS yn ystod y pandemig, ond nid problem newydd ydy hon. Mae ffigurau sydd newydd gael eu cyhoeddi yn dangos ym mis Awst 2019 fod bron hanner y rheini oedd yn cael referral ar gyfer gwasanaethau arbenigol…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Brif Weinidog, rhyw flwyddyn yn ôl, mi oeddech chi'n cyhoeddi bod ysgolion am gael ailagor eto ar ôl cyfnod clo hirfaith, ond rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, gymaint mae teimlo'n ynysig, bod ar wahân o'u ffrindiau wedi cael effaith…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
& 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021
Mi fyddwn ninnau hefyd yn cefnogi’r rheoliadau yma. Rydym ni’n amlwg mewn lle lle mae nifer y cyfyngiadau yn gymharol isel erbyn hyn. Rydym ni’n gofyn i’r Llywodraeth barhau i wthio’r ffiniau beth sy’n gallu cael ei wneud o ran codi y cyfyngiadau, ond, wrth…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella o COVID-19
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gwnaf wisgo dwy het, o bosib, yn fan hyn—ie, fel llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, ond hefyd fel cyd-gadeirydd, ers yn gynharach heddiw, grŵp trawsbleidiol newydd sydd wedi cael ei sefydlu yma yn y Senedd. Dwi'n…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, fe fydd y Senedd hon—. Dirprwy Lywydd, fe fydd y Senedd hon yn deall yr hyn yr wyf i'n ei olygu pan ddywedaf i, yn Aelod o Blaid Cymru, fy mod yn ofni ein bod yn cyfyngu ar ein huchelgeisiau fel cenedl ar hyn o bryd. Mae gennym ni wahanol safbwyntiau…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Felly, o bosib, fe ofynnaf i rywbeth tebyg mewn ffordd ychydig yn wahanol. Fel rhestr o bethau digon dilys a chlodwiw, mae yna lawer iawn dwi'n cyd-fynd â fo yn sicr yn y rhaglen yma. Mae yna lawer o syniadau dwi'n eu hadnabod o faniffesto diweddar Plaid…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
'Ai dyna'r cyfan sydd gyda chi, Prif Weinidog?',
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
meddai'r Western Mail bryd hynny. A'r pennawd, rhag ofn,