Cynhyrchu Bil Dŵr Glân i Gymru ac Afonydd Cymru.
Wedi'i chwblhau
1,316 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae ein hafonydd yn gweiddi am gymorth. Nid oes gennym lawer o amser cyn y bydd hi'n rhy hwyr i'w hachub. Ers gormod o amser, mae deddfwyr, rheoleiddwyr a llygrwyr wedi siarad am amddiffyn ein hafonydd, ond does dim byd ystyrlon byth yn cael ei wneud. Rydym yn galw ar Aelodau o’r Senedd i ymrwymo i gynhyrchu Bil Dŵr Glân i Gymru.
Rhagor o fanylion
Bydd y Bil Dŵr Glân yn: • Gosod fframwaith uchelgeisiol o dargedau cyfreithiol rhwymol ar gyfer bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr • Sicrhau bod rheoleiddiwr sy'n addas i’r diben yn cael ei benodi ac sy'n dwyn pob llygrydd i gyfrif yn gyfartal • Cyhoeddi trwyddedau newydd sy'n ystyrlon ac sy'n: - ehangu'r ystod o lygryddion sy'n gorfodi camau gweithredu - arwain at ganlyniadau sylweddol am dorri terfynau trwydded • Cynnal adolygiad o'r ffordd y mae cwmnïau dŵr yn gweithredu yng Nghymru • Sicrhau gorfodi darpariaethau Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025 • Sicrhau bod pob afon a ddynodwyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yn cael ei phrofi yn unol â’r Rheoliadau Ansawdd Dŵr Ymdrochi • Gweithio gyda Ffermwyr i annog cynhyrchu bwyd heb greu dŵr ffo maetholion
Rhaid i'r Bil Dŵr sicrhau gweithredu yn hytrach na geiriau, a blaenoriaethu natur yn hytrach nag elw ar bob cyfrif. Dylai dinasyddion wyddonwyr, cymunedau lleol a defnyddwyr afonydd gael eu cynnwys yn y pwyllgor sy'n llunio'r bil.