Rhowch y cyffur Xonvea ar y rhestr fformiwlâu ar gyfer rheoli cyfog a chwydu yn ystod beichiogrwydd
Wedi cau
1,097 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Canllawiau Greentop Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr ar gyfer rheoli cyfog a chwydu yn ystod beichiogrwydd yn argymell Xonvea fel triniaeth llinell gyntaf effeithiol ar gyfer rheoli salwch difrifol yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw ar y rhestr fformiwlâu yng Nghymru. Mae Hyperemesis Gravidarum yn gyflwr difrifol sy'n effeithio ar tua 3% o fenywod beichiog; bydd un o bob 10 menyw â HG yn terfynu eu beichiogrwydd a bydd un o bob pedair yn ystyried hunanladdiad. Mae Xonvea yn driniaeth ddiogel ac effeithiol. Gofynnwn i AWMSG adolygu ei argymhelliad.
Rhagor o fanylion
Canllawiau Greentop: https://www.rcog.org.uk/guidance/browse-all-guidance/green-top-guidelines/the-management-of-nausea-and-vomiting-of-pregnancy-and-hyperemesis-gravidarum-green-top-guideline-no-69/
Rhagor o wybodaeth am HG: https://pregnancysicknesssupport.org.uk/