Dod â Rheol Jess i Gymru i atal diagnosau rhag cael eu methu ac oedi wrth wneud diagnosis
Wedi'i chwblhau
1,572 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae gormod o bobl – yn enwedig menywod – yn clywed bod eu poen yn “normal” ac yn dioddef blynyddoedd o gamddiagnosis. Mae Rheol Jess yn creu mesurau diogelu ychwanegol at y mesurau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru drwy ddull 'tri thrawiad': gwaith dilynol mandadol ac ymchwiliadau amserol ar gyfer symptomau parhaus, gan gynnwys sbardun ffurfiol ar ôl ymweliadau mynych. Mae’r amddiffyniadau penodol a nodir yn Rheol Jess yn bodoli yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Mae pawb yn haeddu gofal cyfartal.
Rhagor o fanylion
Rhaid rhoi Rheol Jess ar waith ledled Cymru i gleifion sy’n dangos symptomau parhaus, i atal niwed y gellir ei osgoi a gwella diogelwch i gleifion, yn enwedig ar gyfer cyflyrau nad oes diagnosis digonol ohonynt.