Mae andropos yn beth dilys, ac mae dynion yn haeddu cefnogaeth hefyd. Peidiwch â gadael dynion ar ôl - Gofal andropos i Ogledd Cymru
Wedi cau
569 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Nid oes dim gwasanaethau andropos pwrpasol yng Nghymru. Yn aml, caiff dynion sy'n profi symptomau andropos ddiagnosis anghywir, cânt eu diystyru, neu rhoddir tabledi gwrth-iselder iddynt yn lle profion hormonau priodol. Mae gan ddynion yng Ngogledd Cymru yr hawl i gael cefnogaeth briodol ar gyfer andropos, ac eto, ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau andropos pwrpasol yn unman yng Nghymru. Rydym yn galw am greu Clinig Andropos arbenigol yn Ysbyty Gwynedd ar unwaith, ar gyfer bod yn batrwm i weddill Cymru. Mae symptomau andropos yn cael camddiagnosis neu eu diystyru. Yn aml, rhagnodir tabledi gwrth-iselder i ddynion yn lle rhoi prawf hormonau yn y gwaed llawn, ac yn aml fe'u gadewir heb fynediad at driniaeth a chymorth priodol.
Rhagor o fanylion
Gall andropos heb ei drin achosi: • Blinder difrifol, hwyliau isel, pryder ac iselder. • Straen ar berthnasoedd a bywyd teuluol. • Dynion yn gadael cyflogaeth oherwydd iechyd sy'n dirywio. • Risg uwch o hunanladdiad ymhlith dynion sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw unman i droi. Rydym yn gofyn am: • Glinig Andropos arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, fel y cyntaf o'i fath yng Nghymru. • Hyfforddiant priodol i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol i adnabod a thrin andropos. • Addysg gyhoeddus fel bod iechyd hormonaidd dynion yn cael ei drafod yn agored, yn union fel y menopos. • Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd dynion pwrpasol ledled Cymru.
Pam Mae Hyn yn Bwysig Mae cefnogi dynion drwy andropos yn arwain at: • Ddynion iachach, a theuluoedd iachach • Llai o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl • Cymunedau a gweithleoedd cryfach.