Diogelu Gofal Lliniarol Arbenigol yn Ysbyty Cwm Cynon
Wedi cau
1,369 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg yn ymgynghori ar gynigion sy’n cynnwys cau’r ward Gofal Lliniarol Arbenigol, sydd ag wyth gwely, yn Ysbyty Cwm Cynon a chynyddu gofal cartref. Er bod gofal cartref yn bwysig, mae gwelyau arbenigol cleifion mewnol yn parhau i fod yn hanfodol i gleifion ag anghenion cymhleth, y rheini sydd heb gefnogaeth addas yn y cartref, a theuluoedd sydd angen seibiant. Byddai cael gwared ar y ward yn lleihau dewis a mynediad lleol at ofal diwedd oes. Mae'r cynnig hwn yn effeithio ar drigolion ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae gofal lliniarol arbenigol cleifion mewnol yn cefnogi cleifion ag anghenion rheoli symptomau cymhleth, na ellir eu darparu’n ddiogel yn y cartref ar bob adeg. Mae hefyd yn darparu seibiant a sicrwydd clinigol i deuluoedd yn ystod amgylchiadau anodd iawn.
Rhagor o fanylion
Gofynnwn i'r Senedd geisio’r canlynol: • Data meddiannaeth cyfredol a hanesyddol ar gyfer yr wyth gwely • Rhagamcan o ran y galw yn y dyfodol • Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a mynediad gwledig • Manylion o ran sut y bydd darpariaeth cartref estynedig yn cael ei hariannu a’i staffio Rhaid i unrhyw newid i’r gwasanaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a rhaid iddo ddiogelu dewis y claf.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,351 o'r 1,369 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Pontypridd Cynon Merthyr | 1,111 |
| Afan Ogwr Rhondda | 80 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 52 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 24 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 22 |
| Caerdydd Penarth | 13 |