Gofal Iechyd Brys a Diogelwch Trigolion yn Sir Benfro - Ymyrraeth yn Ysbyty Llwynhelyg a’r Bwrdd Iechyd
Wedi cau
11,496 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddWedi'i gyrraedd
Rydym yn galw am ymyrraeth ddiymdroi gan y llywodraeth i oruchwylio'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag Ysbyty Llwynhelyg ac adfer gwasanaethau hanfodol i sicrhau diogelwch a llesiant trigolion Sir Benfro. Nid yw’r straen a'r pryder y mae'r bwrdd iechyd yn ei achosi yn lleol yn rhywbeth sydd ei angen ar breswylwyr, meddygon teulu, gwasanaethau ambiwlans a’r sectorau gwirfoddol.
Rhagor o fanylion
Fel aelodau o sefydliad diogelwch cymunedol a thrigolion Sir Benfro, dyma ddatgan yn ffurfiol fod cyflwr presennol y gofal iechyd yn Ysbyty Llwynhelyg yn bygwth diogelwch y cyhoedd.
Yn rhy hir, mae ein gwasanaethau wedi cael eu canoli, eu hisraddio, neu eu cadw mewn cyflwr o ansicrwydd. Nid mater gweinyddol yn unig ydyw mwyach; mae'n argyfwng diogelwch. Am bob munud sy’n cael ei hychwanegu at daith ambiwlans a phob gwasanaeth sy'n cael ei dynnu o’n hysbyty lleol, mae’r risg i fywyd yn cynyddu.
Rydym yn galw ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn uniongyrchol, gwarantu gwasanaethau craidd, sicrhau safonau gofal, a dod â gwasanaethau yn ôl i Sir Benfro.
Mae pobl Sir Benfro yn haeddu system gofal iechyd sy'n creu diogelwch, nid ennyn pryder. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith y newidiadau sydd eu hangen i adfer gwasanaeth diogel, effeithiol a dibynadwy yn Ysbyty Llwynhelyg.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 11,124 o'r 11,496 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 10,371 |
| Sir Gaerfyrddin | 399 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 55 |
| Caerdydd Penarth | 46 |
| Gŵyr Abertawe | 41 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 41 |