Rhaid Diogelu Adeiladau Cymunedol a Sicrhau Tryloywder wrth Ailddatblygu’r Stryd Fawr yng Nghymru
Wedi cau
285 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Ar hyd a lled Cymru, mae llawer o drefi a phentrefi yn colli adeiladau cymunedol hanesyddol, fel tafarndai a lleoliadau’r stryd fawr drwy gael eu hailddatblygu neu eu newid yn dai amlfeddiannaeth. Yn aml iawn, mae’r adeiladau hyn yn rhan bwysig o hunaniaeth lleol a bywyd cymdeithasol. Dim ond pan gaiff hysbysiadau ffurfiol eu cyhoeddi, yn aml, y daw trigolion yn ymwybodol o gynigion. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau polisi cynllunio i ddiogelu adeiladau cymunedol a sicrhau tryloywder cliriach ac ymgynghori pan gaiff newidiadau mawr eu cynnig.
Rhagor o fanylion
Mae cynigion ailddatblygu diweddar mewn cymunedau fel Treherbert wedi codi pryderon am golli neu newid adeiladau cymunedol hirsefydlog. Yn aml iawn, dim ond pan gaiff hysbysiadau cynllunio eu cyhoeddi y daw trigolion yn ymwybodol o hyn. Byddai tryloywder cliriach, ymgynghori cryfach a diogelu adeiladau cymunedol yn well yn helpu i sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi cymunedau cynaliadwy ar hyd a lled Cymru.