Gwneud seddi mewn safleoedd bws yn hygyrch
Ar agor i'w llofnodi tan 28 Hydref 2026.
23 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae safleoedd bws yng Nghymru yn dueddol o fod â bariau i bwyso arnynt - nid yw'r rhain yn hygyrch i bobl sy’n fyrrach na’r taldra cyfartalog. Mae hyn yn effeithio ar blant a’r henoed, sy’n fwy tebygol o fod yn fyrrach.
Pa bwrpas sydd i rywbeth fel mainc os nad yw pobl yn gallu ei defnyddio? Mae lle i aros yn helpu pobl â symudedd cyfyngedig i gael mynediad at drafnidiaeth i’r dre.
Rhagor o fanylion
Rwy’n 4’11’’ ac mae’n rhaid i fi eistedd ar y llawr yn y safle bws, yn hytrach na defnyddio’r bar pwyso, sy’n uwch nag uchder y glun.
Ni fyddai hyn yn bosibl i rywun sydd â’r un taldra â mi, ond yn berson hŷn. Dylai meinciau fod yn ddigon isel i eistedd arnynt, ac ni ddylent fod ar ongl, fel bod pobl â phroblemau yn eu cymalau yn gallu eu defnyddio.
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod meinciau sy’n bodloni anghenion pob teithiwr ym mhob safle bws newydd neu sy’n cael ei adnewyddu.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 21 o'r 23 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 8 |
| Gŵyr Abertawe | 3 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 2 |
| Caerdydd Penarth | 2 |
| Bangor Conwy Môn | 1 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 1 |