Mae angen cynorthwyo gyda newidiadau mawr i'r problemau parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru.
Ar agor i'w llofnodi tan 2 Tachwedd 2026.
816 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Hoffwn i Lywodraeth Cymru drafod y mater hirhoedlog hwn a gwneud newidiadau i flaenoriaethu’r defnydd o’r maes parcio yn Ysbyty Maelor ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr. Mae'n ardal enfawr, ond mae'n gwbl llawn cyn 9.00am. Mae cleifion yn colli apwyntiadau. Mae angen rhwystrau, ffordd i gleifion ac ymwelwyr efallai ddefnyddio sgan QR ar eu llythyrau apwyntiad a ffi resymol i atal defnyddwyr yr ysbyty nad oes ganddynt gysylltiad â hi rhag cael mynediad am ddim.
Rhagor o fanylion
Rwyf wedi cael profiad personol o geisio parcio fy nghar ar gyfer apwyntiadau ac wedi gorfod mynd i ganol y dref a thalu i barcio mewn maes parcio gwag y cyngor ac yna gerdded 15 neu 20 munud yn ôl i fyny i'r ysbyty. Mae gen i arthritis a chyflwr ar y galon ac rwy'n credu ei bod yn hunanol ac yn amharchus iawn disgwyl i bawb, gan gynnwys pensiynwyr a theuluoedd ifanc, orfod gwneud hyn. Mae'n achosi llawer o boen a straen. Helpwch i wella'r sefyllfa hon os gwelwch yn dda. Mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Rhaid gwneud rhywbeth.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 789 o'r 816 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Fflint Wrecsam | 527 |
| Clwyd | 144 |
| Gwynedd Maldwyn | 110 |
| Bangor Conwy Môn | 6 |
| Caerdydd Penarth | 2 |