Mae angen mwy o gyllid ar ofal a chymorth ym maes iechyd atgenhedlol a gynaecolegol menywod
Ar agor i'w llofnodi tan 20 Tachwedd 2026.
1,861 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall.
Rhagor o fanylion
Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall. Mae angen mwy o gyllid ar gyfer gofal a chymorth i fenywod sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd atgenhedlol a gynaecolegol. Rydym yn pryderu bod gwybodaeth anghywir, hen a diwerth yn cael ei rhoi, ac nad yw'n helpu i reoli'r symptomau. Mae llawer o fenywod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru pan fyddant yn codi’r materion hyn.
Rydym am roi’r gorau i weld menywod yn cael cyfarwyddiadau i ‘golli pwysau’ neu’n cael cynnig dulliau atal cenhedlu fel triniaeth. Mae angen trin ymwrthedd i inswlin o ddifrif a dylai mwy o opsiynau fod ar gael o ran triniaeth. Mae angen cydnabod symptomau poenus, mislif afreolaidd neu absennol, blinder ac anghydbwysedd hormonaidd o ddifrif a dylai mwy o driniaeth fod ar gael. Mae angen gwell gofal ar gyfer pob cyflwr gan gynnwys y menopos, endometriosis a syndrom ofarïau polycystig (a elwir hefyd yn PMOS). Ni ddylai menywod orfod mynnu bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac ni ddylid eu hanwybyddu a rhoi cyngor diog iddynt. Credwn fod angen newidiadau sylweddol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,745 o'r 1,861 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Fflint Wrecsam | 318 |
| Clwyd | 302 |
| Gwynedd Maldwyn | 163 |
| Casnewydd Islwyn | 159 |
| Bangor Conwy Môn | 155 |
| Afan Ogwr Rhondda | 131 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg |