Galw am Ymchwiliad i Dŵr Cymru, y cwmni “nid-er-elw”
Ar agor i'w llofnodi tan 3 Rhagfyr 2026.
2,166 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Yn y bôn, mae’n methu yn ei ddyletswydd statudol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, bioamrywiaeth, ac amgylchedd naturiol Cymru. Mae data diweddar yn dangos bod y fframwaith rheoleiddio a gweithredu presennol yn gwbl anaddas i’r diben. O dan fodel unigryw “nid-er-elw” a gynlluniwyd i ddiogelu budd y cyhoedd, mae strwythur yr arweiniad corfforaethol yn gyson wedi sicrhau tâl uchel a chyflogau chwe ffigur i’r gweithredwyr, a hynny wrth i filiau cwsmeriaid godi ac ecosystemau afonydd lleol ddirywio.
Rhagor o fanylion
Mae data o 2025 yn datgelu bod Dŵr Cymru wedi cofnodi ei flwyddyn waethaf erioed ar gyfer digwyddiadau llygredd difrifol, gan reoli 11 o ddigwyddiadau mawr, dinistriol i’r amgylchedd - cynnydd o 83% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. (1) Dyfarnodd Cyfoeth Naturiol Cymru sgôr perfformiad “Coch” i’r cwmni cyfleustodau am ddigwyddiadau difrifol. Arweiniodd y methiant hwn at gosbau enfawr, gan gynnwys gofyniad i dalu £40 miliwn yn dilyn ymchwiliadau i gamadrodd am ddata gollyngiadau a pherfformiad amgylcheddol - ond NID DYNA’R DARLUN CYFAN O BELL FFORDD.
(1) Cynllun Lleihau Digwyddiadau Llygredd Dŵr Cymru 2026: https://corporate.dwrcymru.com/cy-gb/community/environment/pollution-incident-reduction-plans
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 2,122 o'r 2,166 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 767 |
| Sir Gaerfyrddin | 620 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 130 |
| Gŵyr Abertawe | 81 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 72 |
| Afan Ogwr Rhondda | 70 |