Cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau'r Senedd yn y dyfodol
Ar agor i'w llofnodi tan 27 Tachwedd 2026.
45 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Yn Etholiad y Senedd yn 2026, cyflwynwyd system Bleidleisio Rhestrau Caeedig i ethol 96 o Aelodau i’r Senedd newydd ei hehangu. Fodd bynnag, dangosodd y system hon rai gwendidau sylweddol, gan mai dim ond pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol y gallai pleidleiswyr ei wneud, tra bod y penderfyniad ynghylch pwy a etholwyd i'r Senedd yn y pen draw yn nwylo'r pleidiau eu hunain.
Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau'r gwaith o gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.
Rhagor o fanylion
Mae cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau cenedlaethol yn bwysig, ac mae'n sicr yn ganmoladwy mai dyma oedd y nod gyda diwygiadau'r Senedd o'r dechrau. Er bod y system Rhestrau Caeedig a weithredwyd wedi cyflawni'r nod hwn, fe gyflwynodd broblemau hefyd, megis gwanhau'r cysylltiad rhwng pleidleiswyr a'u cynrychiolwyr a'r canfyddiad bod ymgeiswyr yn cael eu gwobrwyo am deyrngarwch i blaid yn hytrach na'u gallu i gynrychioli eu hetholwyr. Byddai’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, ar y llaw arall, hefyd wedi cyflawni'r nodau o wneud etholiadau'r Senedd yn fwy cyfrannol heb gyflwyno'r un problemau ag a welwyd o gyflwyno Rhestrau Caeedig, gyda'r fantais ychwanegol y gall pleidleiswyr restru cymaint o ymgeiswyr ag y dymunant, sy'n golygu na fyddai'n rhaid iddynt bleidleisio ar hyd llinellau plaid. Mae'r system eisoes yn cael ei defnyddio'n llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'n boblogaidd ymhlith yr etholwyr, fel y dangosir gan yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygiadau'r Senedd, er mwyn sicrhau cymesuredd ac atebolrwydd.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 38 o'r 45 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Brycheiniog Tawe Nedd | 6 |
| Ceredigion Penfro | 5 |
| Bangor Conwy Môn | 4 |
| Gwynedd Maldwyn | 4 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 4 |
| Caerdydd Penarth | 3 |
| Caerdydd Ffynnon Taf |