Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a mynd i’r afael â gwahaniaethu
Ar agor i'w llofnodi tan 4 Rhagfyr 2026.
33 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Elizabeth Doran ydw i a fi yw Llysgennad Teithwyr/Sipsiwn o GT.WALES. Oherwydd fy mod yn dod o’r gymuned, rwy’n gwybod yn dda fod llawer o deuluoedd yn cael trafferth dod o hyd i leoedd addas i fyw a stopio wrth deithio. Gall diffyg safleoedd awdurdodedig greu anawsterau nid yn unig i’n cymuned ni ond i’r gymuned sefydlog ac awdurdodau lleol. Byddai mwy o safleoedd yn helpu i wella sefydlogrwydd, gwella mynediad at addysg a gofal iechyd, a chefnogi traddodiadau diwylliannol Sipsiwn a Theithwyr.
Rhagor o fanylion
Mae teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru yn wynebu problemau difrifol. Mae llawer yn prynu eu tir eu hunain ond yn cael trafferth byw arno. Ar yr un pryd nid oes digon o safleoedd awdurdodedig Teithwyr ar gael.
Mae hyn yn golygu nad oes gan lawer o deuluoedd le cyfreithlon i fynd, gan eu gorfodi i stopio ar ymyl y ffordd, mewn meysydd parcio ac mewn caeau. Mae’n achosi anhawster i deithwyr a chymunedau lleol ond y gwir broblem yw diffyg opsiynau cyfreithlon.
Ni ddylid cosbi teuluoedd am nad oes ganddynt unman arall i fyw. Mae’r prinder safleoedd hefyd yn ennyn gwahaniaethu, hiliaeth a sylwadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol ac wyneb yn wyneb tuag at y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o safleoedd awdurdodedig; gwella mynediad at ganiatâd cynllunio i deuluoedd sy’n berchen ar dir; a chymryd camau cryfach yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod am gynnydd gwirioneddol o ran y camau a gymerwyd mewn ymateb i ymchwiliad dilynol y Senedd i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr: https://senedd.wales/media/smkjrwax/cr-ld17012-w.pdf
Byddai creu mwy o leoedd cyfreithlon i fyw o fudd i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog ehangach.
Os gwelwch yn dda ystyriwch weithio gyda ni nid yn ein herbyn. Diolch.
GT.Wales: https://gtwales.org.uk/
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 22 o'r 33 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Ffynnon Taf | 9 |
| Caerdydd Penarth | 3 |
| Ceredigion Penfro | 3 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 2 |
| Afan Ogwr Rhondda | 1 |
| Clwyd | 1 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg |