Lleihau llygredd aer drwy gyfyngu ar danau gwersyll/pyllau tân ar safleoedd gwersylla.
Ar agor i'w llofnodi tan 16 Rhagfyr 2026.
7 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Wrth wersylla yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar, sylwais ar ansawdd ofnadwy yr aer oherwydd pyllau tân. Wrth yrru i Barc Cenedlaethol Eryri, roedd yn amlwg ble roedd y safleoedd gwersylla oherwydd y mwrllwch o’r holl danau oedd yn aros yn yr awyr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri hyd yn oed yn nodi y dylai ymwelwyr gyfyngu ar y defnydd o danau gwersyll, felly pam nad oes cyfyngiadau ar safleoedd gwersylla, lle rydych chi mewn man mwy cyfyng? At hynny, gwyddys bod pebyll yn fflamadwy ac mae llawer o bobl yn defnyddio nwy LPG ar gyfer coginio neu gyfarpar arall mewn carafanau.
Rhagor o fanylion
Mae hyn yn rhywbeth y dylid ei reoleiddio gan fod ymdrech fawr yng Nghymru i leihau llygredd aer o allyriadau cerbydau modur a llosgwyr coed mewn cartrefi preswyl ond mae llosgi tanau bron yn cael ei annog wrth wersylla. Ni allai fy mhartner, sy’n dioddef o asthma, aros y tu allan oherwydd y mwg oedd yn chwythu o gyfeiriad pobl eraill ar y safle a fyddai’n cynnau’r tân ac yna’n mynd i’w pabell neu eu carafán gan adael y tân oherwydd bod gormod o fwg. Nid wyf am wahardd pyllau tân na thanau gwersyll yn gyfan gwbl gan fod llawer o bobl yn cysylltu hyn â’r profiad gwersylla ond dylid cyflwyno terfyn i ganiatáu i eraill nad ydynt am foddi yn y mwrllwch fwynhau’r awyr iach a chyfyngu ar faint o lygredd aer sydd oherwydd pyllau tân/tanau gwersyll heb eu rheoli. Rwy’n awgrymu, efallai, fod safleoedd gwersylla yn rheoli tân gwersyll/pwll tân lle gellir dewis y tanwydd a hyd yr amser llosgi er mwyn lleihau’r mwg sy’n cael ei ryddhau. Byddai hyn yn ychwanegiad gwych at Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 7 o'r 7 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 4 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 2 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |