Ymchwiliad Cyhoeddus Statudol i fethiannau amlasiantaethol ym maes diogelu a llywodraethu mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru.
Ar agor i'w llofnodi tan 25 Rhagfyr 2026.
115 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus statudol annibynnol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 i arferion o ran adrodd, llywodraethu a diogelu plant o fewn awdurdodau addysg yng Ngogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr a sefydliadau eraill a enwir yn yr adroddiad "Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder". Gyda phwerau i orfodi proses o gasglu tystiolaeth, rhaid i’r Ymchwiliad hwn drafod sut y gwnaeth methiannau systemig ganiatáu i risgiau hysbys a phryderon ynghylch ffiniau gael eu diystyru gan arweinwyr dros ddegawdau.
Rhagor o fanylion
Mae canfyddiadau diweddar yn datgelu methiannau difrifol o ran diogelu plant ym maes addysg yng Ngogledd Cymru. Datgelodd yr Adolygiad Ymarfer Plant, "Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder", fod ysglyfaeth wedi cam-drin plant dros flynyddoedd, o bosibl gan fynd yn ôl i 1979. Cafodd rhybuddion a godwyd yn 2018 eu diystyru gan arweinwyr. Mae materion llywodraethu difrifol yn parhau, gan gynnwys y cwestiwn pam y cafodd yr unigolyn hwn swydd fel pennaeth gweithredol yn 2021 yn dilyn canfyddiad o gamymddwyn gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn 2020. Nododd datgeliadau cyhoeddus hefyd gamdriniaeth systemig hanesyddol yn uned Canolfan Brynffynnon, gan arwain at iawndal yn cael ei dalu i gyn-ddisgyblion. Ddegawdau ar ôl Adroddiad Clywch, mae diffygion amalasiantaethol o ran llywodraethu ac atebolrwydd yn parhau i fod heb eu datrys. Nid oes gan adolygiadau anstatudol bwerau cyfreithiol i orfodi proses o gasglu tystiolaeth. Mae Ymchwiliad Cyhoeddus statudol yn hanfodol i ddatgelu pam y cafodd rhybuddion eu hanwybyddu a sicrhau nad yw arferion diffygiol wedi trosglwyddo i arferion ehangach gan sefydliadau partner.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 110 o'r 115 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 37 |
| Bangor Conwy Môn | 30 |
| Clwyd | 25 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 7 |
| Fflint Wrecsam | 7 |
| Gŵyr Abertawe | 2 |
| Afan Ogwr Rhondda |