Dylid annog y Senedd i gryfhau'r Rheolau Sefydlog a chanllawiau sy'n atal gelyniaeth tuag at grwpiau gwarchodedig.
Ar agor i'w llofnodi tan 30 Rhagfyr 2026.
7 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd i gryfhau'r Rheolau Sefydlog a chanllawiau ynghylch grwpiau gwarchodedig.
Mae iaith senoffobig wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y Seithfed Senedd hon.
Rydym yn cynnig y dylai'r geiriad fod fel a ganlyn:
"Rhaid i Aelod beidio â defnyddio iaith sy'n dirmygu, yn difenwi, neu'n annog gelyniaeth tuag at unrhyw grŵp gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010."
Gall y Llywydd ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod dynnu sylwadau o'r fath yn ôl neu gall alw Aelod i drefn."
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 7 o'r 7 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Ffynnon Taf | 3 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 1 |
| Casnewydd Islwyn | 1 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 1 |
| Sir Fynwy Torfaen | 1 |