BIL DIOGELU GIG CYMRU
Ar agor i'w llofnodi tan 25 Rhagfyr 2026.
13 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru i gyflwyno Bil Diogelu GIG Cymru i ddiogelu a chryfhau gofal iechyd a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r GIG yn un o wasanaethau cyhoeddus mwyaf gwerthfawr Cymru, gan ddarparu gofal iechyd yn seiliedig ar angen yn hytrach na'r gallu i dalu. Credwn y dylai cenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa o wasanaeth iechyd sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus, sy'n atebol i'r cyhoedd ac sy'n hygyrch i bawb.
Rhagor o fanylion
Mae llawer o bobl yn pryderu ynghylch y pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG, gan gynnwys prinder o ran y gweithlu, galw cynyddol a chyfranogiad cynyddol darparwyr preifat mewn darparu gofal iechyd.
Credwn y dylid cymryd camau nawr i amddiffyn egwyddorion sylfaenol y GIG a helpu i sicrhau ei gynaliadwyedd hirdymor.
Gallai Bil Diogelu GIG Cymru helpu i ddiogelu gwasanaethau craidd y GIG, hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd, a sicrhau bod adnoddau gofal iechyd yn cael eu defnyddio'n deg er budd pawb sydd eu hangen. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i ddiogelu, cryfhau a chynnal GIG Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 13 o'r 13 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Afan Ogwr Rhondda | 3 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 3 |
| Caerdydd Penarth | 2 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 2 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |
| Gŵyr Abertawe | 1 |