Rhoi’r gorau i bob datblygiad ar fawndiroedd ledled Cymru!
Ar agor i'w llofnodi tan 21 Ionawr 2027.
2,023 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae mawndiroedd yng Nghymru yn darparu storfa carbon bwysig, maen nhw’n storio 30% o’n carbon ar y tir. Maent yn hanfodol o ran ein goroesiad: mae mawndiroedd iach yn storio mwy o garbon na holl goedwigoedd y byd gyda’i gilydd. Maent hefyd yn darparu cynefin hanfodol i blanhigion, anifeiliaid, adar a phryfed, ac yn helpu i atal llifogydd yn wyneb tywydd cynyddol anwadal. Ni ellir symud nac ail-greu mawndir; unwaith y bydd wedi’i ddarnio neu ei ddinistrio, mae’n cael ei golli. Mae mawndiroedd hanfodol Cymru mewn perygl oherwydd •plannu coed ar gyfer coedwigaeth fasnachol, •datblygiadau ffermydd gwynt mawr (megis Waun Hesgog a Lluest y Gwynt ym Mynyddoedd Cambria, sy’n ceisio caniatâd ar hyn o bryd), •defnydd cynyddol o gerbydau oddi ar y ffordd, •tanau gwyllt, • adeiladu ffyrdd, •llosgi tymhorol. Mae datgarboneiddio ynni a chynyddu gorchudd coed yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond ni all hynny fod ar draul mawndir! Mae’r 60 neu fwy o ddatblygiadau adnewyddadwy diwydiannol ar raddfa fawr a gynigir yn bygwth tua 36% o adnodd mawndir Cymru.
Rhagor o fanylion
Rhaid amddiffyn ac adfer pob mawndir yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth frys yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae echdynnu mawn ar gyfer gerddi wedi'i wahardd, nawr mae’n rhaid inni atal cyfeintiau llawer mwy rhag cael eu dinistrio gan y gweithgareddau eraill hyn. Cyflwynir y ddeiseb hon gan ymgyrchwyr cymunedol, Grŵp Gweithredu Waun Hesgog, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chymdeithas Mynyddoedd Cambria.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,684 o'r 2,023 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 344 |
| Gwynedd Maldwyn | 334 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 301 |
| Sir Gaerfyrddin | 210 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 83 |
| Gŵyr Abertawe | 72 |
| Caerdydd Penarth |