Cymryd camau brys fel nad yw’r rhai sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig Difrifol yng Nghymru yn cael eu gadael heb ofal meddygol hanfodol mwyach
Ar agor i'w llofnodi tan 10 Chwefror 2027.
3,551 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae’r gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig (ME) yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Yn benodol, mae pryderon mawr o hyd ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai sydd â’r ffurf ddifrifol ar y cyflwr. Mae hyn yn gadael rhai teuluoedd sy’n wynebu penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd heb arweiniad meddygol.
Mae dioddefwyr yn gorfod aros mewn ystafelloedd tywyll; mae angen gofal 24 awr y dydd arnynt; ac mae rhai yn methu siarad, bwydo eu hunain, goddef golau neu sain, neu hyd yn oed eistedd i fyny.
Bydd camau arfaethedig yn sicrhau bod pobl sydd ag ME Difrifol yn gallu cael gafael ar ofal meddygol diogel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynyddu’r posibilrwydd o wella.
Rhagor o fanylion
Rydym yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen dirfawr yn cael cymorth brys a hirdymor.
Dyma’r camau gweithredu a luniwyd ar y cyd gan y cyrff a ganlyn: Severe ME Difrifol Cymru (SMEDC), Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru (WAMES), Action for ME (AfME), Long Covid Support (LC Support).
1. Creu Grŵp Arbenigol Cenedlaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw i gydweithio i lunio Strategaeth a Chynllun Cyflawni Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir, gan sicrhau tegwch gwasanaethau a chydymffurfedd â chanllawiau NICE (NG206 ME/CFS), ar draws pob oedran a phob lefel difrifoldeb.
2. Penodi Arweinydd/Arweinwyr Clinigol / Ymgynghorydd/Ymgynghorwyr Meddygol Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir i gydlynu gofal ar draws byrddau iechyd, lleihau amrywiadau rhanbarthol, cefnogi achosion cymhleth, ac arwain hyfforddiant a thriniaeth, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i gyd-fynd ag ymchwil ddatblygol.
3. Datblygu Strategaeth Ymchwil ME/CFS a Covid Hir i gyflymu’r gwaith ymchwil a wneir yng Nghymru drwy’r Sector Gwyddorau Bywyd / Hwb Gwyddorau Bywyd erbyn 2027.
4. Ystyried canlyniadau hirdymor mewn strategaethau cynllunio/atal pandemig yn y dyfodol, gan adolygu canllawiau ynghylch Atal a Rheoli Heintiau.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 2,046 o'r 3,551 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 574 |
| Gŵyr Abertawe | 304 |
| Caerdydd Penarth | 176 |
| Bangor Conwy Môn | 154 |
| Ceredigion Penfro | 146 |
| Sir Gaerfyrddin | 144 |
| Caerdydd Ffynnon Taf |