Dylid adolygu’r Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig yng Nghymru i amddiffyn bywoliaeth pobl a diogelwch y cyhoedd
Ar agor i'w llofnodi tan 12 Chwefror 2027.
151 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae cynllun trwyddedu newydd Cymru yn creu rhwystrau i aciwbigwyr, tatŵyddion, ymarferwyr colur lled-barhaol / microlafnu, ac ymarferwyr electrolysis a thyllu hunangyflogedig sy'n rhentu ystafelloedd triniaeth. Gall busnesau sy’n eu cynnal wynebu costau cymeradwyo safleoedd, a chyfrifoldeb o ran hyfforddiant a rheoleiddio er nad ydynt yn cyflawni'r triniaethau. Gall hyn arwain at fod ymarferwyr cymwys heb weithleoedd addas, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.
Rhagor o fanylion
Rydym yn cefnogi rheolaeth gref ar heintiau ond eisiau system fwy cymesur. Rydym yn cefnogi safonau cadarn ar gyfer rheoli heintiau, ond gall y cynllun presennol atal ymarferwyr rhag cael gafael ar weithleoedd addas. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno model ystafell driniaeth ddynodedig fel y gall ymarferwyr trwyddedig gymryd cyfrifoldeb am sicrhau ystafell sy’n cydymffurfio â’r rheolau o fewn busnes arall, tra bod archwiliadau, golchi dwylo, arwynebau glanadwy, eitemau miniog a rheolaethau gwastraff yn parhau yn orfodol. Mae angen llwybr cymesur hefyd ar gyfer lleoliadau dros dro/cymunedol, a Chydnabyddiaeth Dysgu Blaenorol pan mae hyfforddiant rheoli heintiau a gyflawnwyd eisoes yn bodloni'r safon. Mae aciwbigo symudol yn codi anghysondeb clir: gall ymarferwyr asesu risg cartrefi anghyfarwydd, ond eto beidio â gallu defnyddio ystafell glinigol bwrpasol oherwydd na fydd y busnes ble y’i lleolir yn ymgymryd â thrwyddedu’r safle. Dylid adolygu'r effaith economaidd ar hunangyflogaeth, ar wasanaethau gwledig, ar fusnesau rhentu ystafelloedd ac ar gostau llesiant. Mae Lloegr yn datblygu trwyddedu ar gyfer triniaethau cosmetig anfeddygol, felly mae gwersi a ddysgir yng Nghymru yn bwysig ledled y DU.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 74 o'r 151 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 54 |
| Sir Fynwy Torfaen | 4 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 3 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 2 |
| Caerdydd Penarth | 2 |
| Gwynedd Maldwyn | 2 |