Sefydlu cysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chiwba a Venezuela
Ar agor i'w llofnodi tan 14 Chwefror 2027.
39 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn: Datblygu cysylltiadau partneriaeth diwylliannol, addysgol, meddygol a chymunedol ffurfiol â Chiwba a Venezuela, gan ddilyn model partneriaethau presennol Cymru gyda Lesotho ac Uganda, o dan gynllun Dolen Cymru. Dylai hyn gynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnewid athrawon a gweithwyr iechyd, cydweithio diwylliannol, a meithrin cysylltiadau rhwng cymunedau.
Rhagor o fanylion
Mae gan Gymru draddodiad 40 mlynedd o ddatblygu cysylltiadau partneriaeth rhyngwladol ffurfiol, wedi’u hariannu gan y Llywodraeth a’u darparu drwy gynllun Dolen Cymru a rhaglen Cymru ac Affrica. Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Lesotho, a lansiwyd ym 1985, wedi arwain at leoli dros 50 o athrawon o Gymru yn Lesotho. Mae hefyd wedi cefnogi gweithgarwch partneriaeth a chyfnewid yn y GIG, ac wedi arwain at gydweithio diwylliannol ac addysgol rhwng y ddwy genedl. Mae partneriaeth debyg yn bodoli gydag Uganda.
Mae'r cysylltiadau hyn yn gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru. Er bod cysylltiadau rhyngwladol fel arfer wedi'u cadw yn ôl gan Senedd y DU, mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i drefnu cytundebau partneriaeth nad ydynt yn rhwymol â Llywodraethau eraill mewn meysydd datganoledig, megis addysg, iechyd a diwylliant, ac i gynnal cyfarfodydd gyda chymheiriaid o genhedloedd eraill.
Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn y model partneriaeth sefydledig, anwleidyddol hwn i Giwba a Venezuela, er mwyn meithrin cysylltiadau rhwng pobl mewn ardaloedd datganoledig, cyfnewid athrawon, a chydweithio ym meysydd iechyd a diwylliant, fel y mae eisoes yn ei wneud gyda Lesotho.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 36 o'r 39 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 9 |
| Gwynedd Maldwyn | 9 |
| Bangor Conwy Môn | 5 |
| Gŵyr Abertawe | 4 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 3 |
| Sir Gaerfyrddin | 2 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni |