Dylid ôl-ddyddio gostyngiadau’r dreth gyngor o ran dementia i’r dyddiad ardystio gan Feddyg Teulu
Ar agor i'w llofnodi tan 18 Chwefror 2027.
36 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Dim ond os oes ganddynt dystysgrif feddygol a'u bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol y caiff pobl â dementia eu 'diystyru' (peidio â’u cyfrif) o ran y dreth gyngor. Mae cyfnodau aros hir am rai budd-daliadau, ac felly mae llawer o bobl â dementia yn gorfod aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i fod yn gymwys ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor.
Rhagor o fanylion
Rydym am i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn mynd ymlaen i fod yn gymwys i gael budd-dal perthnasol. Goblygiadau hyn ddylai fod, bod pobl â dementia yn cael gostyngiadau ychwanegol yn y dreth gyngor am gyfnodau hwy, a allai arbed miloedd o bunnoedd iddynt o ran eu bil treth gyngor.
Mae dros 27,000 o bobl yng Nghymru â dementia yn cael gofal yn eu cartrefi. Rydym ni o’r farn fod y rheolau presennol yn annheg, a bod angen eu diwygio.
Mae’r deisebwyr felly yn gofyn i’r Senedd annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn gymwys i gael budd-dal perthnasol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 30 o'r 36 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Sir Fynwy Torfaen | 6 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 5 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 4 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 3 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 3 |
| Caerdydd Penarth | 2 |