Amddiffyn ffrwythlondeb menywod sydd ag endometriosis lle mae eu ffrwythlondeb mewn perygl
Ar agor i'w llofnodi tan 20 Chwefror 2027.
334 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae endometriosis yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 10 o fenywod a gall effeithio’n sylweddol ar eu ffrwythlondeb. Gall y problemau y mae menywod yn eu hwynebu gynnwys nifer yr wyau sydd ganddynt wrth gefn, niwed i’w hofarïau a dirywiad cynnar o ran eu ffrwythlondeb, a gall triniaeth a llawdriniaeth effeithio ymhellach ar eu potensial i atgenhedlu. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod ag endometriosis sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod endometriosis fel rhywbeth sy’n peryglu ffrwythlondeb, a darparu mynediad teg at wasanaethau diogelu ffrwythlondeb.
Rhagor o fanylion
Gall endometriosis fygwth ffrwythlondeb drwy endometriomâu ofaraidd, llai o wyau wrth gefn a niwed a achosir gan lawdriniaeth. Mae ESHRE yn argymell trafod diogelu ffrwythlondeb gyda menywod ag endometriosis ofaraidd helaeth, ac mae NICE yn cydnabod yr angen i ystyried ffrwythlondeb a nifer yr wyau wrth gefn wrth reoli’r cyflwr.
Yng Nghymru, gall gymryd bron 10 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis, sy’n golygu bod y clefyd yn datblygu am flynyddoedd mewn rhai menywod cyn iddynt gael gofal arbenigol. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb oherwydd endometriosis.
Mae’r ddeiseb hon yn galw am lwybr GIG Cymru ar sail tystiolaeth, sy’n darparu asesiad ffrwythlondeb ac, lle bo’n glinigol briodol, arian cyhoeddus i rewi wyau menywod sydd mewn perygl sylweddol o golli eu ffrwythlondeb.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 295 o'r 334 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Pontypridd Cynon Merthyr | 106 |
| Afan Ogwr Rhondda | 43 |
| Caerdydd Penarth | 42 |
| Bangor Conwy Môn | 24 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 18 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 15 |