Galw am ymchwiliad i agweddau ac arferion sy'n gysylltiedig ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru
Ar agor i'w llofnodi tan 26 Chwefror 2027.
87 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Amcan yr ymchwiliad hwn fyddai cydnabod yn gyhoeddus gamweddau awdurdodau lleol o ran eu hymddygiad ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag ADY ym maes addysg. Yn dilyn y datgeliadau diweddar gan chwythwr chwiban o awdurdod lleol, yn ogystal â'r problemau sydd eisoes yn wybyddus yn eang ymhlith rhieni plant ag ADY gydag awdurdodau lleol ac ysgolion, mae angen i'r llywodraeth gydnabod yn gyhoeddus gwmpas y problemau hyn a'u heffaith, fel bod modd gwella safonau.
Rhagor o fanylion
Mae eisoes yn hysbys o fewn y gymuned anghenion dysgu ychwanegol fod awdurdodau lleol ac ysgolion yn esgeuluso eu cyfrifoldebau i roi darpariaethau digonol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r sefydliadau hyn, nid yn unig yn esgeuluso eu dyletswyddau, ond credwn eu bod yn gwneud hynny drwy ddulliau gelyniaethus ymwybodol neu ddulliau trin o ran emosiwn, er mwyn achosi'r gofid mwyaf i rieni/gofalwyr a phlant ag ADY. Mae’r problemau hefyd yn cynnwys: defnyddio iaith enllibus, iaith ymosodol, neu iaith ddiraddiol yn uniongyrchol neu'n gudd tuag at rieni/gofalwyr ADY, yn ogystal ag ymddygiad bygythiol a bwlio drwy gyfathrebiadau gweinyddol (e.e. llythyrau ysgol yn cyrraedd ar benwythnosau i achosi'r gofid a'r aflonyddwch mwyaf i fywyd teuluol).
Mae pawb yn y gymuned ADY yn gwybod am y niwed y mae'r system bresennol yn ei hachosi i deuluoedd, yn enwedig i blant mewn addysg brif ffrwd, ac rydym wedi cael digon ar gael ein tanseilio nes y teimlwn mai ni yw'r broblem. Mae'r system yn ddrylliedig ac mae angen iddi newid, fel bod pob plentyn yn cael addysg deg.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 48 o'r 87 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 9 |
| Bangor Conwy Môn | 5 |
| Caerdydd Penarth | 5 |
| Casnewydd Islwyn | 5 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 5 |
| Afan Ogwr Rhondda | 3 |