Rhoi mynediad drwy'r GIG i Lecanemab a Donanemab ar bresgripsiwn
Ar agor i'w llofnodi tan 24 Chwefror 2027.
627 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rwyf wedi bod yn rhan o ymchwil i glefyd Alzheimer ers 15 mlynedd a hoffwn gael y cyfle i gael mynediad at gyffuriau a allai ohirio symptomau clefyd Alzheimer, nid yn unig i mi fy hun ond i bawb sy'n dioddef o ddementia.
Rhagor o fanylion
Mae Lecanemab a Donanemab yn gyffuriau sydd wedi'u trwyddedu gan MHRA y DU, ar gyfer trin symptomau Alzheimer ysgafn. Mae wedi'i brofi'n glinigol i arafu dilyniant clefyd Alzheimer. Dangosodd treialon clinigol eu bod wedi arafu dechrau Clefyd Alzheimer cynnar ymysg pobl.
Mae bron i 1 miliwn o bobl yn byw gyda Dementia yn y DU, sy’n costio tua £42 miliwn y flwyddyn i'r economi.
Mae clefyd Alzheimer teuluol yn cyfrif am lai nag 1% o'r holl achosion o Ddementia. Bydd pobl sy'n cario'r mwtaniad genetig hwnnw'n datblygu symptomau Clefyd Alzheimer cyn 65 oed.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 581 o'r 627 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 420 |
| Casnewydd Islwyn | 73 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 46 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 13 |
| Caerdydd Penarth | 6 |
| Afan Ogwr Rhondda | 5 |