Ailgychwyn llawdriniaethau cadarnhau rhywedd ar unwaith a diogelu cleifion Gwasanaeth Rhywedd Cymru'r GIG.
Ar agor i'w llofnodi tan 3 Mawrth 2027.
18,051 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddWedi'i gyrraedd
Rydym yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i wneud y canlynol:
Ailgychwyn ar unwaith y llawdriniaethau cadarnhau rhywedd hynny a oedd wedi cael eu trefnu a'u cymeradwyo ar gyfer cleifion sydd eisoes wedi cwblhau asesiadau.
Sicrhau bod unrhyw adolygiad clinigol parhaus yn cael ei gynnal ar yr un pryd, a hynny heb amharu ar ofal cleifion gweithredol, sefydledig.
Cyhoeddi cylch gorchwyl clir a thryloyw ac amserlen bendant ar gyfer yr adolygiad annibynnol o Wasanaeth Rhywedd Cymru
Rhagor o fanylion
.Ar 24 Awst 2026, gwnaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru uwchgyfeirio Gwasanaeth Rhywedd Cymru i lefel 3 ar gyfer "Gwasanaeth sy'n Peri Pryder", gan atal ar unwaith ac yn ddiwahân bob atgyfeiriad llawfeddygol, pob asesiad a phob llawdriniaeth drefnedig a oedd yn ymwneud â chadarnhau rhywedd. Cymerwyd y penderfyniad hwn yn sgil pwysau gwleidyddol allanol a sylwadau trydydd parti ynghylch nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer un categori llawfeddygol (llawdriniaeth i wryweiddio’r frest). Fodd bynnag, ymatebodd y corff comisiynu drwy gau’r llwybr llawfeddygol yn llwyr, gan atal triniaethau hollol wahanol—gan gynnwys llawdriniaethau benyweiddio a thriniaethau adlunio organau cenhedlu—ar gyfer cleifion heb unrhyw gysylltiad â’r ystadegau dan sylw. Mae canslo ar fyr rybudd lawdriniaethau meddygol angenrheidiol a oedd wedi cael eu cymeradwyo ymlaen llaw yn achosi trawma seicolegol difrifol i gleifion agored i niwed sydd wedi bod yn aros, yn hollol ddidwyll, ers blynyddoedd. Rhaid i waith craffu gweinyddol ac adolygiadau clinigol gael eu cynnal ochr yn ochr â gofal parhaus, nid ar draul diogelwch cleifion, ymreolaeth gorfforol, ac urddas dynol sylfaenol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 8,555 o'r 18,051 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 1,627 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1,263 |
| Gŵyr Abertawe | 649 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 590 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 562 |
| Ceredigion Penfro | 504 |