Dylid diwygio'r llwybr ASD/ADHD, gyda chyd-gyfrifoldeb ar y meddyg teulu a’r ysgol a hyfforddiant gorfodol ar niwroamrywiaeth.
Ar agor i'w llofnodi tan 23 Mawrth 2027.
561 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Gall teuluoedd sy'n ceisio cael asesiad o awtistiaeth neu ADHD yng Nghymru wynebu llwybrau aneglur, cyfathrebu anghyson ac ansicrwydd ynghylch pa faes sydd â'r cyfrifoldeb, ai addysg, gofal sylfaenol neu’r gwasanaethau arbenigol. Gall hyn arwain at aros am amser hir, atgyfeiriadau dro ar ôl tro, poen meddwl a phlant yn methu â chael cymorth priodol wrth iddynt aros am asesiad.
Mae gan weithwyr proffesiynol addysg, gan gynnwys Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), rôl bwysig o ran adnabod gwahaniaethau niwroddatblygiadol a gwybod beth yw’r rhwystrau i ddysgu. Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyson am hyfforddiant niwroddatblygiadol arbenigol sy'n galluogi gweithwyr proffesiynol i adnabod yr ystod eang o ymgyflwyniadau awtistiaeth ac ADHD.
Dylai hyfforddiant gynnwys yn benodol masgio, cuddliwio, gofid mewnol a nodweddion na sylwir arnynt, a hynny’n fwy cyffredin mewn merched. Gall plant sy'n ymddangos yn academaidd alluog, yn gymdeithasol lwyddiannus, yn ufudd neu'n ymddwyn yn dda fod yn profi anawsterau sylweddol o hyd. Heb hyfforddiant priodol, mae’n bosibl y caiff yr ymgyflwyniadau hyn eu methu neu eu camddeall, yn enwedig pan nad yw poen meddwl yr unigolyn yn amlwg yn yr ysgol.
Dylai Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a gweithwyr addysg proffesiynol perthnasol gael mynediad at hyfforddiant cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn adnabod nodweddion niwroddatblygiadol, deall masgio a gwybod pan allai fod angen asesiad pellach neu gyngor arbenigol. Dylai hyfforddiant ganolbwyntio ar adnabod anghenion, yn hytrach na’i bod yn ofynnol i weithwyr proffesiynol addysg wneud diagnosis.
Hefyd, dylai cyfathrebu fod yn fwy eglur a dylai cyfrifoldebau gael eu diffinio’n glir rhwng ysgolion, meddygon teulu a gwasanaethau niwroddatblygiadol arbenigol. Ni ddylai teuluoedd orfod bod yn arbenigwyr yn y system na gorfod herio gwasanaethau dro ar ôl tro i gael arweiniad a chymorth priodol.
Rydym yn galw am lwybr ASD/ADHD cliriach a chydgysylltiedig yng Nghymru, gyda chyfrifoldebau wedi’u diffinio ar draws y maes gofal sylfaenol, y maes addysg a’r gwasanaethau arbenigol; am hyfforddiant niwroamrywiaeth gorfodol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthnasol, gan gynnwys hyfforddiant ar fasgio ac ymgyflwyniadau nad ydynt yn cael eu hadnabod yn ddigonol; am gyfathrebu gwell rhwng gwasanaethau; ac am ragor o atebolrwydd o ran adnabod, asesu a chymorth amserol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 543 o'r 561 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gŵyr Abertawe | 80 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 79 |
| Casnewydd Islwyn | 55 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 43 |
| Sir Fynwy Torfaen | 41 |
| Afan Ogwr Rhondda | 35 |