Dylid comisiynu adolygiad annibynnol o ddiogelwch cleifion yn ystod argyfyngau iechyd meddwl acíwt yng Nghymru
Ar agor i'w llofnodi tan 30 Mawrth 2027.
132 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rwy'n galw am yr adolygiad hwn yn dilyn dwy farwolaeth a gofnodwyd ac achos difrifol a fu bron â digwydd, yn ymwneud â phobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl acíwt, gan gynnwys pryderon yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor. Mae'r ddeiseb hon yn ymwneud â diogelwch cleifion ac atal: a sicrhau asesiad risg cadarn, goruchwyliaeth briodol, mewnbwn iechyd meddwl arbenigol a mynediad diogel at ofal gan barchu urddas a hawliau cyfreithiol cleifion.
Rhagor o fanylion
Roedd un o'r marwolaethau yr adroddwyd yn ei chylch yn ymwneud â fy ffrind gorau. Rwyf wedi darparu tystiolaeth ar wahân i'r Crwner ac wedi codi pryderon ynghylch diogelwch cleifion gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Rwy'n gofyn am adolygiad annibynnol o ran a yw'r systemau presennol yn ddigon cadarn, gan gynnwys asesiadau risg, ystyried capasiti lle bo'n berthnasol, rhannu gwybodaeth, asesiadau iechyd meddwl arbenigol, goruchwyliaeth a gweithdrefnau pan fydd claf agored i niwed yn gadael adran achosion brys.
Rwy'n credu bod y digwyddiadau hyn yr adroddwyd yn eu cylch yn amlygu bod angen adolygiad annibynnol i weld a oes risgiau neu fylchau cyffredin yn y systemau ar hyn o bryd ar gyfer amddiffyn pobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl acíwt yng Nghymru, fel y gellir nodi gwersi priodol ac atal rhagor o niwed.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 114 o'r 132 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Sir Fynwy Torfaen | 59 |
| Casnewydd Islwyn | 15 |
| Ceredigion Penfro | 13 |
| Bangor Conwy Môn | 5 |
| Caerdydd Penarth | 5 |
| Gŵyr Abertawe | 4 |
| Caerdydd Ffynnon Taf |