Cyfleusterau noddfa i fabanod ledled Cymru – diogel, preifat a chyfrinachol
Ar agor i'w llofnodi tan 14 Ebrill 2027.
474 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Gall rhai rhieni deimlo eu bod ar ben eu tennyn ac na allant ofalu am eu babanod newydd-anedig. Dylai fod gan Gymru opsiwn diogel a chyfrinachol lle gellir trosglwyddo baban yn ddiogel i weithwyr proffesiynol hyfforddedig i gael gofal brys.
Rhagor o fanylion
Mae blychau a gwasanaethau noddfa eisoes yn bodoli mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Dylai Cymru ymchwilio i'r modelau hyn ar frys ac ystyried a ellid cyflwyno system debyg yma.
Dylai rhieni mewn argyfwng gael lle diogel i fynd â'u babanod newydd-anedig, 24 awr y dydd, gyda gofal meddygol brys ar gael i'r baban a chefnogaeth briodol i'r rhiant.
Dylai mynediad fod yn ddienw neu'n gyfrinachol, lle bo modd cynnig hynny o dan y gyfraith, gyda gweithdrefnau diogelu cryf yn eu lle.
Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn, gan ymgynghori ag arbenigwyr a chymryd camau tuag at sefydlu gwasanaeth noddfa yng Nghymru. Os gall y gwasanaethau hyn weithredu mewn mannau eraill, dylai Cymru ystyried o ddifrif a allwn achub bywydau yma hefyd.
Y nod yw darparu opsiwn diogel arall mewn argyfwng a helpu i atal babanod newydd-anedig rhag cael eu gadael mewn amgylchiadau anniogel.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 468 o'r 474 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 330 |
| Bangor Conwy Môn | 112 |
| Clwyd | 9 |
| Fflint Wrecsam | 7 |
| Ceredigion Penfro | 3 |
| Sir Gaerfyrddin | 2 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni |