Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu i'r rhai sydd wedi byw mewn eiddo cyngor am 20 mlynedd neu fwy ei brynu.
Ar agor i'w llofnodi tan 18 Ebrill 2027.
37 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydw i wedi byw yn fy eiddo cyngor ers 23 mlynedd yn gwneud gwelliannau i'r tŷ wrth ofyn i'm cyngor am ganiatâd. Mae fy nheulu wrth eu bodd â'r tŷ rydyn ni'n ei rentu gan ein cyngor lleol ond hoffem brynu'r eiddo gan ein bod ni wedi byw yma ers dros 20 mlynedd ac yn teimlo mai dyma gartref ein teulu. Diddymwyd y cynllun yng Nghymru yn unig a, gyda Llywodraeth newydd Cymru yn ei lle, teimlir y dylid edrych ar y penderfyniad hwn ar gyfer tenantiaid hirdymor, i'w helpu i fod yn rhan o’r farchnad eiddo.
Rhagor o fanylion
Gan mai fi yw'r unig ddarparwr incwm yn fy aelwyd oherwydd afiechyd fy ngwraig, mae bron yn amhosibl bod yn rhan o’r farchnad eiddo. Ar ôl byw yn fy nhŷ cyngor ers dros 20 mlynedd, rwy'n teimlo y dylwn i gael yr hawl i brynu'r eiddo rwy'n ei alw'n gartref. Rydw i wedi gwneud gwelliannau i'r cartref gyda chaniatâd y cyngor, gan osod drysau newydd ym mhob rhan o’r tŷ, ein hystafell ymolchi ein hunain, adnewyddu'r ardd ac addurno pob rhan o'r eiddo, gan gynnwys y tu allan. Hoffem i'r gyfraith newid fel ei bod yn rhoi cyfle i deuluoedd llai abl a theuluoedd ar incwm is fod yn berchen ar eiddo y maent wedi bod yn ei rentu ers cyfnod hir. Byddai'r arian a gynhyrchir o werthiannau yn rhoi'r arian i gynghorau adeiladu tai/fflatiau newydd neu adnewyddu adeiladau fel ysgolion sydd wedi cau i ddarparu mwy o dai ar draws eu hardaloedd.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 35 o'r 37 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 23 |
| Casnewydd Islwyn | 8 |
| Sir Fynwy Torfaen | 2 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 1 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |